Mae llefarydd Tai y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am derfyn ar y rhagfarn yn erbyn landlordiaid preifat.
Mae Mark Isherwood, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, hefyd wedi galw am well dealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru o’r angen i amddiffyn landlordiaid yn ogystal â thenantiaid.
Daw ei sylwadau yn dilyn protestiadau yng Nghaerdydd dros y penwythnos yn galw am ymestyn y cyfnod troi allan o gartrefi yng Nghymru ymhellach.
Yn ystod y clo cafodd y cyfnod rhybudd i droi pobol allan o’u cartrefi yng Nghymru ei ymestyn i chwe mis hyd nes ddiwedd fis Medi.
Bydd y llysoedd ddim yn ystyried unrhyw gais i hel pobol o’u cartrefi tan Fedi 20.
Mae’r cyfnod rhybudd o chwe mis eisoes wedi ei ymestyn tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf yn Lloegr.
“Nid oes unrhyw fesurau ariannol uniongyrchol i helpu landlordiaid i gario’r baich a ddaw yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymestyn y cyfnod rhybudd i ail feddiannu eiddo”, meddai Mark Isherwood.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur ddod â’i rhagfarn at landlordiaid preifat i ben, a’u helpu i gynnal nifer dda o eiddo rhent o ansawdd.”
‘Heb rent am fisoedd’
“Mae mwyafrif llethol y tenantiaid sydd wedi mynd at eu landlord neu asiant am gymorth yn ystod y pandemig – megis gohirio rhent, gostyngiad rhent neu ryw gymorth arall – wedi derbyn ymateb cadarnhaol”, meddai wedyn.
“Fodd bynnag, mae landlordiaid – mewn rhai achosion yn ystod y pandemig – wedi cael eu gadael heb rent am eu heiddo am fisoedd nid oherwydd na allai’r tenantiaid dalu, ond oherwydd nad oeddent am dalu.
“Mae llawer o’r rhain [landlordiaid] yn dibynnu ar yr incwm yma i gynnal eu costau byw o ddydd i ddydd neu i ddarparu pensiynau.
“Byddai gyrru landlordiaid gweddus allan o’r sector a lleihau’r stoc dai sydd ar gael i’w rhentu yn niweidiol i denantiaid yn yr hir dymor.”
Mae Mark Isherwood wedi awgrymu dylid mabwysiadu cynllun benthyciad cost isel neu ddi log i denantiaid ar gyfer dyledion sy’n gysylltiedig â Covid-19.
“Byddai hyn yn ffordd effeithiol o gynnal tenantiaethau a chael gwared ar y bygythiad o droi allan yn gyfan gwbl,” meddai.
Ond ychwanegodd fod angen cydbwysedd er mwyn amddiffyn landlordiaid a thenantiaid.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb i sylwadau Mark Isherwood, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, eisoes wedi cyhoeddi benthyciadau i helpu tenantiaid a landlordiaid.
“Yn gynharach y mis yma, cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, gynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth gwerth £8m i helpu tenantiaid y sector rhentu preifat sydd ag ôl-ddyledion rhent, neu sy’n cael anhawster talu eu rhent o ganlyniad i Covid-19,” meddai.
Bydd y benthyciadau hyn yn cael eu talu’n uniongyrchol i’r landlord ac ar gael i denantiaid gydag 1% o log APR. Bydd rhaid ad-dalu’r benthyciad dros gyfnod o bum mlynedd.
Ychwanegodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu £1.4m ychwanegol i roi hwb i wasanaethau sy’n cefnogi pobol yng Nghymru sydd “fwyaf agored i niwed” ac sy’n ei chael hi’n anodd talu eu rhent neu filiau eu cartref.
“Dylai’r mesurau hyn helpu tenantiaid i roi sylw i’w hôl-ddyledion rhent ac atal miloedd lawer o denantiaid a theuluoedd rhag cael eu hel o’u cartrefi a wynebu digartrefedd o bosib.”