Mae disgwyl i weithiwr gofal preswyl i blant yng Nglyn Ebwy fynd gerbron panel mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru yr wythnos nesaf i wynebu cyhuddiad o ymddygiad amhriodol.

Mae Ian Jayne wedi’i gyhuddo o ymddygiad rhywiol amhriodol tuag at ei gydweithwyr.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o greu fideo ohonyn nhw yn cynnwys sylwadau amhriodol, ac o rannu’r fideo gyda chydweithwyr eraill ar ffurf yr ap ffôn WhatsApp.

Bydd yn mynd gerbron y panel drwy gyswllt Zoom ar Fedi 1.