Mae oddeutu 30 o bobol wedi cael eu symud o barc carafanau yn dilyn llifogydd yn ardal Wiseman’s Bridge ger Arberth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 9.13yb, ac fe aeth criwiau o Ddinbych y Pysgod ac Arberth i’r safle.

Bu’n rhaid symud 12 o garafanau oddi ar y safle.

Cafodd un dyn driniaeth gan ddiffoddwyr tân cyn iddo gael ei drosglwyddo i ofal y Gwasanaeth Ambiwlans.

Roedd y gwasanaeth tân ar y safle am rai oriau.