Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi gofyn am gyngor arbenigol ynghylch a ddylai disgyblion yng Nghymru orfod gwisgo masgiau wrth ddychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod cynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth, Awst 25).

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi awgrymu y dylai pobol ifanc dros 12 oed orfod gwisgo masgiau os ydyn nhw yn yr un lleoliadau ag oedolion – gan gynnwys mewn ysgolion.

O ganlyniad, mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i ddisgyblion uwchradd yno wisgo masgiau mewn coridorau, ardaloedd cymunedol a bysiau ysgol.

Ers mis Gorffennaf, mae’n ofynnol i bobol wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ond mae cludiant ysgol wedi’i eithrio o’r gyfraith.

‘Tystiolaeth yn newid’

Yn dilyn cyhoeddiad Sefydliad Iechyd y Byd, dywedodd Vaughan Gething fod rhaid i bobol ddeall fod “tystiolaeth yn newid”.

“Mae barn yr Alban ar hyn wedi newid yn sylweddol ac rydym wedi gofyn i’n cynghorwyr gwyddonol yma yng Nghymru i roi arweiniad i ni,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae cyfraddau’r feirws yn is yma na phan ddychwelodd plant i’r ysgol am gyfnod o dair wythnos ym mis Gorffennaf.”

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyngor pellach heddiw ynghylch a fydd angen i ddisgyblion wisgo masgiau yn yr ysgol.

Cyflog llawn i weithwyr cymdeithasol sy’n hunanynysu

Yn y gynhadledd, dywedodd y Gweinidog Iechyd hefyd y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fuan ynglŷn â rhoi cyflog llawn i weithwyr gofal sy’n gorfod hunanynysu oherwydd Covid-19.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd na ddylai gweithwyr gofal orfod dewis “rhwng hunanynysu a thalu’r biliau”.

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fis Mai y byddai gweithwyr gofal yn cael bonws o £500.

Llai o bobol yn yr ysbyty oherwydd Covid-19 – ond mwy mewn cyflwr difrifol

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd fod 48 claf yn derbyn gofal am yr haint mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd.

Roedd 70 yn derbyn gofal am yr haint mewn ysbytai yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf.

Ond mae pedwar bellach mewn cyflwr difrifol o ganlyniad i Covid-19, i fyny o 2 yr wythnos ddiwethaf.