Mae Suzy Davies AS, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am gysondeb gan awdurdodau lleol ynghylch disgyblion yn gwisgo masgiau wyneb ar gludiant ysgol.

Yn dilyn argymhelliad gan Sefydliad Iechyd y Byd y dylai pobol ifanc dros 12 oed orfod gwisgo masgiau os ydyn nhw yn yr un lleoliadau ag oedolion, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi gofyn am gyngor arbenigol am y mater.

Bydd disgyblion yng Nghymru yn dychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf.

‘Gadael rhieni yn y tywyllwch’

“Mewn rhai achosion, mae rhieni a disgyblion ledled Cymru yn cael eu gadael yn y tywyllwch oherwydd negeseuon anghyson a dryslyd ar draws gwahanol siroedd,” meddai Suzy Davies.

“Mae llawer o fyfyrwyr a’u rhieni yn naturiol yn mynd i fod ychydig yn bryderus erbyn amser dychwelyd i’r ysgol ers cymaint o amser, ac i mewn i amgylchedd gwahanol iawn.

“Mae ysgolion yn ail agor wythnos nesaf, ac er mwyn sicrhhau bod hyn yn broses mor â phosib, mae angen eglurder a chysondeb ar ddisgyblion a rhieni nawr, nid syndod digroeso’r eiliad y bydd y bws ysgol neu’r tacsi yn cyrraedd.”

Ychwanegodd Suzy Davies fod y Ceidwadwyr Cymreig eisiau osgoi dryswch allai arwain at fwy o geir wrth gatiau’r ysgol os bydd rhieni yn penderfynu cludo eu plant eu hunain.

Mae’r Alban eisoes wedi newid eu canllawiau, ac mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â “llusgo’u traed”.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyngor pellach yn fuan ynghylch a fydd angen i ddisgyblion yng Nghymru wisgo masgiau yn yr ysgol.