Mae yna alwadau cynyddol am ymddiswyddiad Boris Johnson yn dilyn dyfarniad hanesyddol yn llys uchaf gwledydd Prydain heddiw (dydd Mawrth, Medi 24).
Fe ddyfarnodd panel o 11 ustus yn y Goruchaf Lys yn Llundain fod penderfyniad Boris Johnson i ohirio’r Senedd am bum wythnos ar drothwy Brexit yn “anghyfreithlon”.
Maen nhw hefyd wedi dweud nad oes gan y broses o brorogio (gohirio) “unrhyw effaith” yn yr achos hwn – sy’n golygu nad yw’r Senedd wedi ei gohirio.
Daw’r dyfarniad yn dilyn cyfres o wrandawiadau yr wythnos ddiwethaf pan fu barnwyr yn ystyried dwy her gyfreithiol ar wahân.
Roedd un o’r heriau hynny – a gyflwynwyd gan y ddynes fusnes, Gina Miller – wedi ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Galwadau i ymddiswyddo
Mewn ymateb i’r dyfarniad, dywed Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei fod yn “fuddugoliaeth enfawr i reolaeth cyfraith”.
Mae wedyn yn awgrymu y dylai Boris Johnson ystyried ei ddyfodol fel Prif Weinidog Prydain.
“Byddai unrhyw Brif Weinidog arferol yn ymddiswyddo fel mater o falchder ar ôl penderfyniad unfrydol o Lys uchaf y Deyrnas Unedig,” meddai Mark Drakeford. “Hwn yw’r cam olaf mewn pennod druenus iawn i’r wlad.”
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn dweud mai ymddiswyddo yw’r unig opsiwn a ddylai fod ar gael i Boris Johnson bellach.
“Dim ond un ymateb sy’n dderbyniol gan y Prif Weinidog i’r dyfarniad damniol (ac unfrydol) hwn gan y Goruchaf Lys: ymddiswyddo,” meddai Adam Price.
“Ac ar ôl cael gwared ar y Prif Weinidog anonest hwn, fe ddylai’r Senedd weithredu i roi terfyn ar yr ansefydlogrwydd a’r ansicrwydd a chynnal ‘Pleidlais y Bobol’ fel y gallwn symud ymlaen o’r bennod dywyll hon yn ein gwleidyddiaeth unwaith ac am byth.”
Amddiffyn Boris Johnson
Ar y llaw arall, mae Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, David Davies, yn dweud ei fod yn “cyd-sefyll” â’i arweinydd yn San Steffan.
“Mae [Boris Johnson] yn gwneud popeth o fewn ei allu i weithredu yn unol â chanlyniad clir y refferendwm yn wyneb sefydliad pwerus sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Maen nhw eisiau i’r Prif Weinidog ymddiswyddo – ond dydyn nhw ddim eisiau etholiad.”