Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn dweud y dylai’r Senedd ail-agor “yn ddi-ymdroi” yn dilyn dyfarniad hanesyddol gan lys uchaf gwledydd Prydain heddiw (dydd Mawrth, Medi 24).

Fe ddyfarnodd panel o 11 ustus yn y Goruchaf Lys yn Llundain fod penderfyniad Boris Johnson i ohirio’r Senedd am bum wythnos ar drothwy Brexit yn “anghyfreithlon”.

Maen nhw hefyd wedi dweud nad oes gan y broses o brorogio (gohirio) “unrhyw effaith” yn yr achos hwn – sy’n golygu nad yw’r Senedd wedi ei gohirio.

Croesawu’r penderfyniad

“Dw i’n croesawu penderfyniad y Goruchaf Lys fod gohirio’r Senedd yn anghyfreithlon,” meddai John Bercow.

“Mae’r barnwyr wedi gwrthod honiad y Llywodraeth bod cau’r Senedd am bum wythnos yn ymarferiad cyffredin er mwyn sicrhau Araith y Frenhines newydd.

“Drwy ddod i’r casgliad hwn, maen nhw wedi cyfiawnhau hawl a dyletswydd y Senedd i gyfarfod yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn er mwyn craffu ar y Llywodraeth ac i ddal Gweinidogion i gyfrif.

“Fel y cynrychiolydd o ddemocratiaeth Seneddol, fe ddylai Tŷ’r Cyffredin ail-gwrdd heb oedi. Er mwyn sicrhau hyn, fe fydda i’n cwrdd ag arweinwyr y pleidiau cyn gynted â phosib.”