Mae ymgyrchwyr wedi ennill achos yn yr uchelys yn herio penderfyniad Theresa May i ddefnyddio rhyddfraint brenhinol i fwrw ymlaen gyda Brexit, sy’n golygu y bydd raid i’r Senedd gael sêl bendith.
Mae’r Uchelys wedi penderfynu mai’r Senedd yn unig sydd â’r grym i gymeradwyo arwyddo erthygl 50 yn hysbysu’r Undeb Ewropeaidd fod Prydain yn gadael.
Cafodd y ddyfarniad ei thraddodi gan Arglwydd Thomas Cwmgïedd a ddywedodd, “Y rheol sylfaenol yng nghyfansoddiad Prydain yw mai’r senedd sy’n sofran.”
Fe gafodd yr achos ei arwain gan Gina Miller a oedd yn dadlau na ellir tynnu hawliau a bennwyd gan Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 heb sêl bendith Senedd Prydain.
Fe all ddyfarniad danseilio awdurdod Prif Weinidog Prydain wrth drafod gyda gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd cyn i Brydain adael.
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn apelio yn erbyn y ddyfarniad, ac mae’n debyg iawn y bydd yr achos hwnnw’n cael ei glywed yn y Goruchaf Lys.