Mae Aelod Seneddol wedi rhybuddio bod cynnyrch Cymreig, fel cig oen a chig eidion, dan fygythiad yn dilyn y bleidlais Brexit.

Mae Mark Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, wedi codi pryderon ynglyn â cholli statws cyfreithiol cynnyrch Cymreig dan yr Undeb Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd mae cynnyrch fel cig oen a chig eidion Cymru â’r un statws gwarchodedig â Siampên neu ham Parma dan ‘Enw Tarddiad Gwarchodedig’ yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae pryder anferth ymhlith ffermwyr yng Nghymru am statws gwarchodedig eu cynnyrch ar ôl y bleidlais Brexit,” meddai Mark Williams.

“Mae cig eidion a chig oen Cymru yn cael ei ystyried fel cynnyrch o ansawdd uchel iawn ledled Ewrop ac mae ganddo statws gwarchodedig sy’n golygu na all unrhyw gopïau gael eu cynhyrchu.

“Heb y statws gwarchodedig hwn mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd cynhyrchwyr o wledydd eraill yn cymryd mantais o’r ffaith ac yn niweidio statws cig oen a chig eidion Cymreig ledled y farchnad Ewropeaidd.”

Galw am sicrhad gan y Llywodraeth

Galwodd ar Lywodraeth Prydain i sicrhau na fydd cynnyrch Cymreig o’r fath yn colli ei statws wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb.

“Mae’n gwbwl hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn gadael i’r statws gwarchodedig cyfreithiol hwn gael ei golli fel rhan o drafodaethau Brexit.

“Byddaf i’n ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i gael sicrhad ar hyn i’n ffermwyr.”