Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi gofyn am “ymddiheuriad personol”  oddi wrth Aelod o’r Senedd a rannodd cyfres o negeseuon amdani ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd yna eiriau croes rhwng y ddau yn ystod dadl am hiliaeth yn y siambr brynhawn ddoe, ac aeth Neil McEvoy ati i rannu ei rwystredigaeth ar-lein yn ystod ac wedi’r sesiwn.

Bellach mae Elin Jones wedi anfon llythyr at AoSau yn nodi na fydd Neil McEvoy yn cael cyfrannu yn y siambr tan iddo ymddiheuro a dileu ei ddeunydd amdani ar-lein.

“Rwy’n ysgrifennu ynghylch ymddygiad un Aelod ddoe ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y Siambr,” meddai’r llythyr.

“Roedd y sylwadau a wnaed ganddo yn sarhaus ac enllibus ac yn gwbl annerbyniol gan unrhyw Aelod.

“Rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelod dan sylw i ofyn am ymddiheuriad personol ac iddo ddileu’r negeseuon dan sylw ar y cyfryngau cymdeithasol. Hyd nes y byddaf yn derbyn ymddiheuriad a chadarnhad fod y negeseuon wedi eu dileu, ni fydd yr Aelod yn cael ei alw i siarad yn ystod trafodion.

“Hoffwn ategu fod disgwyl i bob Aelod gyfrannu i drafodion mewn modd parchus er mwyn i ni gynnal hygrededd ac enw da ein Senedd.”

Asgwrn y gynnen

Wrth wraidd y ffrae oedd penderfyniad Elin Jones i wrthod gwelliannau a gyflwynwyd gan yr AoS i’w hystyried yn y ddadl.

Yn ymateb i hynny daeth Neil McEvoy ag ambell brop gydag ef i’r cyfarfod llawn, ac fe wnaeth y Llywydd ei rwystro rhag siarad tan iddo eu rhoi o’r neilltu – mi ddigwyddodd hynny yn y pendraw.

Yn ystod y sesiwn dywedodd yr AoS bod ei “lais wedi cael ei ddistewi”, ac mai “hiliaeth ar waith” oedd hynny.

Pwysleisiodd Elin Jones bod pob un gwelliant gan bob un AoS wedi’u gwrthod.

Gallwch wylio rhan o’r ddadl rhwng y ddau isod…