Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi galw ar bobol i “osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
Bydd diogelu gwasanaethau hanfodol a gofyn am gyngor yn y lle cywir yn helpu i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Ac yn ôl byrddau iechyd Cymru byddai’n fwy priodol pe bai tua 20% i 30% o gleifion sy’n mynd i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu trin rywle arall neu mewn ffordd arall.
Mae’r Llywodraeth am i bobol ddefnyddio gwefan gwasanaeth GIG 111 Cymru neu ffonio 111 i gael cyngor ynglŷn â ble i fynd i gael y driniaeth gywir.
Dylai pobol ddim ond mynd i’r ysbyty pan ofynnir iddynt wneud hynny, meddai Vaughan Gething.
“Nawr yn fwy nag erioed mae angen i bobl feddwl yn ofalus ymhle i ofyn am gyngor er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gaeaf hwn,” meddai Vaughan Gething.
“Wrth i’r gaeaf agosáu rydyn ni’n gwybod bod mwy a mwy o bobl yn debygol o ddioddef o fân anhwylderau, fel annwyd, a hoffwn annog pobl i ofyn am gyngor yn y lle cywir – bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael y cyngor, cymorth neu’r driniaeth sydd eu hangen arnynt.
“Eleni, fel cenedl, rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd i atal lledaeniad y coronafeirws ac i gefnogi ein staff ymroddedig yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ym maes gofal. Rydw i’n galw unwaith eto ar bob un i chwarae ei ran i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”