Alana Spencer o Aberystwyth, enillydd The Apprentice, gyda'r Arglwydd Sugar (Llun: Yui Mok/PA)
Mae dynes o Aberystwyth wedi cipio gwobr o chwarter miliwn o bunnau trwy ennill y gyfres ddiweddara o’r rhaglen deledu ‘The Apprentice’.
Nos Sul ym mhennod derfynol y rhaglen deledu mi wnaeth Alana Spencer lwyddo i guro’r cystadleuwyr eraill gan ennill buddsoddiad o £250,000 gan yr Arglwydd Sugar.
Fe sefydlodd Alana Spencer, sydd yn 24 oed, ei chwmni ei hun pan oedd hi’n ddisgybl ysgol yn gwerthu siocled i gyd-ddisgyblion, ac yn dilyn hyn dechreuodd gynhyrchu cacennau.
Heb ‘gefnu ar y freuddwyd’
Wrth siarad am ei llwyddiant dywedodd: “Roedd gan y mwyafrif ohonom ni [y cystadleuwyr] fusnesau, ond dw i’n credu gwnaeth y ffaith fy mod wedi dechrau pan oeddwn i’n ifanc, gyfrannu at fy llwyddiant.”
Bu’r wraig busnes yn aflwyddiannus pan ymgeisiodd i fod ar raglen ‘Junior Apprentice’ yn 2009 ond dywedodd nad oedd hi erioed wedi “cefnu ar y freuddwyd”.
Fe lwyddodd Alana Spencer i guro ei chyd-gystadleuydd Courtney Wood, wnaeth ei chymeradwyo am ei llwyddiant.