Mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion o’r coronafeirws yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi codi i 21.
Mae cysylltiad uniongyrchol hefyd, bellach, rhwng cyfanswm o 127 o achosion o’r feirws â throsglwyddo ar y safle yn yr ysbyty yn Llantrisant ers i’r achosion gael eu hadrodd yno am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf.
Mae llawdriniaethau, ac eithrio nifer fach o achosion brys o ganser, eisoes wedi’u hatal tra bod derbyniadau brys i oedolion a chleifion ambiwlans yn cael eu dargyfeirio i ysbytai eraill.
Ddydd Mercher (7 Hydref), dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ei fod hefyd yn monitro nifer o achosion yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, sydd ag 17 o achosion, ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd â 15 o achosion, ynghyd ag un farwolaeth yr un.
Dywedodd cyfarwyddwr meddygol y bwrdd iechyd, Dr Nick Lyons: “Diogelwch ein cleifion a’n staff yw ein blaenoriaeth gyntaf o hyd ac mae mesurau uniongyrchol i atal lledaeniad y feirws wedi’u rhoi ar waith.
“Rydym yn cymryd yr achosion o ddifrif ac mae’r camau lliniaru llym a chadarn sydd wedi’u cymryd ar draws ein safleoedd yn cael eu harsylwi’n agos.
“Fodd bynnag, o ystyried natur y coronafeirws, mae oedi’n anochel o ran pryd byddwn yn gweld effaith gadarnhaol y mesurau hyn.”
Dywedodd Dr Lyons fod cyfraddau heintio yn parhau i godi yn yr ardaloedd o amgylch safleoedd yr ysbytai, ac apeliodd ar y cyhoedd i “gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif drwy sicrhau nad yw eu hymddygiad yn cyfrannu at ledaeniad pellach Covid-19”.
Beirniadodd Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y Llywodraeth am beidio â dysgu o achosion cynharach, yn Ysbyty Maelor Wrecsam yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd: “Yn yr haf, cafwyd achosion tebyg yn Wrecsam Maelor, a honnodd Gweinidog Iechyd Llafur y byddai gwersi’n cael eu dysgu.
“Yn drasig, nid yw hyn wedi digwydd.”
Cadarnhaodd Dr Frank Atheron, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn sesiwn friffio Llywodraeth Cymru i’r wasg fod yr achosion yn y Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn dal i gael eu “rheoli”.
Ond er iddo ddweud ei fod yn gweld “rhai gwelliannau” yn y gyfradd drosglwyddo yn ardal Rhondda Cynon Taf, lle mae’r ysbyty wedi’i leoli, roedd nifer yr achosion newydd yno a ledled Cymru yn dal yn “uchel,” meddai.