Mae’n “hollol annerbyniol” bod Llywodraeth San Steffan wedi cuddio gwybodaeth am Brexit rhag y llywodraethau datganoledig.
Dyna mae Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, wedi ei ddweud ar ôl i ddogfen cynllunio gael ei rhyddhau i’r wasg – i wefan Guido Fawkes.
Mae’r ddogfen, ‘Tybiaethau cynllunio’r cyfnod pontio,’ yn nodi “na ddylid, ar hyn o bryd, rhannu [ei] gwybodaeth gyda’r llywodraethau datganoledig”.
Mae’r ddogfen, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn cydnabod ei bod yn delio â maes – cyflenwad bwyd – sydd wedi ei ddatganoli.
Hyd yma mae Jeremy Miles wedi anfon llythyr at Michael Gove, Canghellor Dugiaeth Lancaster; ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhannu ei hanfodlonrwydd.
Llythyr Jeremy Miles
“Mae’n hollol annerbyniol bod Llywodraeth y DU yn cydnabod ein cyfrifoldeb wrth baratoi Cymru mewn meysydd allweddol – gan gynnwys cyflenwadau bwyd – ond ei bod ochr yn ochr â hynny yn dewis dal gwybodaeth yn ôl sydd angen arnom er mwyn medru paratoi,” meddai Jeremy Miles.
“Mae dal gwybodaeth yn ôl – ar lefel sylfaenol – yn tanseilio’r ffydd rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig,” meddai wedyn.
Yn ei lythyr mae Jeremy Miles hefyd yn nodi ei fod heb gael ei wahodd i gyfarfod XO (Exit Operations) â gweinidogion ers mis Ionawr.
Mae’n gofyn am alwad ffôn â Michael Gove, ac am i’r gweinidog sicrhau “nad oes rhagor o wybodaeth allweddol yn cael ei ddal yn ôl”.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae hyn yn tanseilio ffydd yn Llywodraeth y Deyrnas unedig ymhellach,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “ac roedd hynny eisoes ar lefel isel yn dilyn cyhoeddiad Bil y Farchnad Fewnol – ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli.
“Dros y ddwy flynedd ddiwetha’ rydym wedi blaenoriaethu buddion ein gwlad trwy roi gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu, a gweithio mewn ffordd gynhyrchiol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau datganoledig eraill.
“Rydym ni yn awr yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas unedig i wneud yr un peth, ac rydym yn galw am gyfarfod, ar frys, â nhw i bwysleisio’r pwynt yma.”