Byddai ymdrechion gan Lywodraeth Prydain i wthio cynlluniau i ddiystyru elfennau o’r cytundeb Brexit yn “fethiant gwleidyddol a diplomyddol enfawr”, meddai Gweinidog Materion Tramor Iwerddon Simon Coveney.
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gwrthdaro dros Bil y Farchnad Fewnol eisoes, gyda Brwsel yn bygwth camau cyfreithiol os fydd Prydain yn cael gwared ar gynlluniau i dorri elfennau o’r cytundeb rhyngwladol.
Ond d’yw Simon Coveney, wnaeth ymddangos gerbron Pwyllgor Materion yr Undeb Ewropeaidd, ddim yn credu y daw hi at hynny.
“Dw i’n credu y byddai Llywodraeth Prydain yn gweld ffolineb y dull hwnnw, ond er hynny mae yno faterion anodd ei datrys,” meddai wrth y pwyllgor.
Aeth ymlaen i ddweud bod “dim modd cyfiawnhau’r” Bil ac mae tacteg negodi sydd wedi mynd o’i le ydyw.
Dau “rwystr mawr” i sicrhau cytundeb
Dywedodd Simon Coveney bod dau rwystr mawr i sicrhau cytundeb.
“Mae angen ffocysu ar sicrhau cytundeb craidd ar fasnachu a’r hyn sydd ei angen i wneud hynny, ac yna gosod cynlluniau wrth gefn mewn elfennau eraill fydd ddim yn barhaol ond a fydd yn rhoi sicrwydd dros dro.
“Os nad oes gennym gytundeb ar ddiwedd y cyfnod trosglwyddo bydd goblygiadau sylweddol oherwydd y cytundeb fydd bod yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig fasnachu ar sail rheolau WTO (World Trade Organisation), allai gynnwys tariffau a chwotâu.”
Pysgota
Rhybuddiodd bod yr ail rwystr yn ymwneud â physgota.
Dywedodd y dylai cytundeb ar bysgodfeydd wedi bod mewn lle erbyn canol yr haf, ond fod hynny ddim wedi digwydd.
“Mae safbwynt y ddwy ochr wedi caledu ar bysgota,” ychwanegodd.
“Mae’r bwlch rhwng yr hyn y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei addo ar bysgota a’r hyn mae’r Undeb Ewropeaidd eisiau yn nhermau negodi, yn llydan dros ben.
“Dw i ddim yn credu bydd yr Undeb Ewropeaidd yn fodlon gorffen cytundeb masnachu yn y dyfodol heb gytundeb ar bysgota. Mae’r rhain yn ddwy broblem fawr.”