Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi tanio camau cyfreithiol yn erbyn y Deyrnas Unedig yn gysylltiedig â ‘Bil y Farchnad Fewnol’.

Pe bai’n dod i rym byddai’r mesur yn torri cyfraith ryngwladol, ac yn tanseilio cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE a lofnodwyd y llynedd.

Bythefnos yn ôl dywedodd Brwsel bod gan Lywodraeth San Steffan tan ddiwedd mis Hydref i addasu’r Bil dadleuol, a bellach mae’r terfyn amser wedi ei basio.

Dyw gwleidyddion Llundain ddim wedi cydymffurfio, wrth gwrs.

Bellach mae llythyr o rybudd wedi ei anfon, ac mae gan y Deyrnas Unedig tan ddiwedd mis Tachwedd i ymateb i bryderon Ewrop. Gallai’r llythyr arwain at achos llys yn erbyn y DU.

Y llythyr

“Roeddem wedi gwahodd ein cyfeillion o Brydain i gael gwared ar rannau problematig eu Bil Marchnad Fewnol drafft erbyn diwedd mis Medi,” meddai Ursula von der Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.

“Mae’r bil drafft hwn, yn ôl ei natur, yn torri’r rhwymedigaeth o ffydd a nodir yn y Cytundeb Ymadael.

“At hynny, os caiff ei fabwysiadu fel y mae, bydd yn gwbl groes i’r protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon.

“Daeth y dyddiad cau i ben ddoe, nid yw’r darpariaethau problematig wedi’u dileu.

“Felly y bore yma mae’r comisiwn wedi penderfynu anfon llythyr o rybudd ffurfiol at Lywodraeth y DU. Dyma gam cyntaf [y weithdrefn pan gaiff dyletswydd ei dorri].”

Ymateb y Deyrnas Unedig

“Mi ddychwelwn at y llythyr maes o law,” meddai llefarydd ar ran y Deyrnas Unedig.

“Rydym wedi amlinellu ein rhesymau tros gyflwyno’r mesurau yn gysylltiedig â Gogledd Iwerddon. Rydym wedi gwneud hynny’n glir.

“Rhaid i ni greu rhwyd amddiffynnol i ddiogelu undod marchnad fewnol y Deyrnas Unedig, a sicrhau bod gweinidogion bob tro yn medru cyflawni eu hymrwymiadau i Ogledd Iwerddon a diogelu’r hyn y cyrhaeddwyd yn ystod y broses heddwch.”

Trafodaethau masnach

Dyw’r Undeb Ewropeaidd ddim wedi cefnu ar drafodaethau ynghylch cytundeb masnach ôl-Brexit. Mae trafodaethau masnach rhwng y DU a’r UE yn parhau’r wythnos hon.

Mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi dweud y dylai’r ddwy ochr “symud ymlaen” a rhoi’r gorau iddi os na ddaw cytundeb erbyn canol yr Hydref.

Asgwrn y gynnen

Nod y Bil, yn ôl Llywodraeth San Steffan, yw sicrhau na fydd ffiniau mewnol y Deyrnas Unedig – rhwng Cymru a Lloegr e.e – yn rhwystro masnach oddi fewn i’r Deyrnas Unedig wedi Brexit.

Mae’n ddadleuol o ran hynny gan y bydd yn cipio pwerau mewn meysydd datganoledig ac yn eu rhoi i Lundain, ac mae’r llywodraethau datganoledig wedi lleisio eu dicter am y Bil.

Mae’n ddadleuol hefyd oherwydd y byddai’n ymyrryd â’r ‘Cytundeb Ymadael’ – y cytundeb Brexit a arwyddwyd gan y ddwy ochr ym mis Ionawr.

Un mater penodol sy’n peri cryn ofid yw’r ffaith bod y Bil yn debygol o botsian â threfniadau Gogledd Iwerddon – gan danseilio’r ‘Cytundeb Ymadael’ a pheryglu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith Belfast.