Mae’n rhaid i Gymru benderfynu a ydi hi am fod yn wlad annibynnol ai pheidio, waeth beth yw’r datblygiadau ym mhob man arall, o fewn degawd, meddai Adam Price.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru nad yw am i Gymru aros i weld beth fydd canlyniad ymgyrch annibyniaeth yr Alban, nac aros i weld San Steffan yn “dwyn pwerau datganoli” drwy Fil y Farchnad Fewnol, cyn penderfynu galw refferendwm mewn/allan.

Yn ôl Adam Price, byddai torri’n rhydd oddi wrth y Deyrnas Unedig yn caniatáu i Gymru fod yn “genedl gyfartal,” yn ogystal ag yn “genedl o gyfartalwch,” drwy gael gwared a’r anghyfiawnderau economaidd a chymdeithasol.

Mewn araith ddigidol i gynhadledd Plaid Cymru bydd Adam Price yn cyhoeddi’r hyn fyddai’r Blaid yn ei wneud petai’n ennill etholiad Senedd Cymru fis Mai nesaf, ac yn ffurfio llywodraeth.

“Rhaid dod i benderfyniad o fewn degawd”

Er bod datblygiadau yng ngweddill gwledydd Prydain am gael effaith ar botensial Cymru i ddod yn wlad annibynnol, mae’n rhaid i’r wlad benderfynu ar ei dyfodol o fewn y ddeng mlynedd nesaf, meddai Adam Price.

“Mae’n ffaith bod datblygiadau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig am effeithio ar y drafodaeth am annibyniaeth yng Nghymru.”

“Mae hynny yn wir wrth ystyried sefyllfa’r Alban, a’u gobeithion i gynnal refferendwm annibyniaeth o fewn y bum mlynedd nesaf.

“Mae’n wir wrth ystyried Gogledd Iwerddon, a chredaf ei fod yn wir o edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr wrth i San Steffan ddwyn pwerau,” esboniodd Adam Price.

“Ond ni fyddwn eisiau bod mewn sefyllfa lle nad yw Cymru’n cael penderfynu ei dyfodol, ac yn cael ei symud ymlaen ar gyflymdra pawb arall.”

Ychwanegodd bod “rhaid i Gymru benderfynu ar ei dyfodol fel cenedl yn ystod y degawd yma.”

“Pryd yn union? Credaf ei bod yn iawn i ni gyd gael syniadau gwahanol a bydd peth o hynny yn cael ei effeithio gan ddigwyddiadau mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.”

Cymry’n “haeddu’r cyfle i benderfynu”

Pan ofynnwyd i Adam Price a fyddai Plaid Cymru’n stopio ymgyrchu dros annibyniaeth petai’r syniad yn cael ei wrthod gan Gymru yn ystod y degawd, dywedodd ei fod yn “gyndyn dweud mai’r refferendwm yma fyddai’r unig gyfle, oherwydd gall pethau newid, fel yr ydym yn ei weld yn yr Alban.

“Felly, ni chredaf y byddai’n bosib [rhoi’r gorau i ymgyrchu dros annibyniaeth].”

“Beth bynnag fo’ch barn ar annibyniaeth, bydd eraill yn dadlau dros fathau gwahanol o ddyfodol cyfansoddiadol.

“Ond mae pobol Cymru yn haeddu cael cyfle i benderfynu trywydd y genedl,” mynnodd.

“Credaf bod angen i ni gael y drafodaeth yn y dyfodol, ac mae’n rhaid i ni benderfynu yn ystod y deng mlynedd nesaf.”

Denu cefnogaeth yr holl sbectrwm gwleidyddol

Er y bydd Plaid Cymru yn cadw eu gwerthoedd am gyfiawnder economaidd a chymdeithasol, bydd Adam Price yn ceisio denu cefnogaeth yr holl sbectrwm gwleidyddol, gan apelio at yr adain dde drwy gefnogi busnesau bach.

“Byddai’r syniad yn apelio at bobol busnes sydd o blaid entrepreneuriaeth ac ati.

“Mae plannu hadau entrepreneuriaeth yng Nghymru yn rhan bwysig o’n cynlluniau economaidd,” meddai arweinydd Plaid Cymru.

“Rydym yn symud oddi wrth ddibynnu ar grantiau, a dibynnu ar ddenu cwmnïau rhyngwladol i ddatrys ein problemau yn hytrach na buddsoddi mewn cwmnïau lleol.

Honnodd y “byddai polisi sy’n blaenoriaethu cwmnïau a busnesau lleol yn atseinio ar hyd y sbectrwm gwleidyddol.”