Mae adroddiadau fod gan gwmni ynni niwclear Westinghouse o’r Unol Daleithiau ddiddordeb yn safle Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Daw hyn wedi i gwmni Hitachi gadarnhau eu bod nhw’n tynnu’n ôl o’r cynllun niwclear.
Yn 2012 derbyniwyd cynnig Hitachi yn hytrach na chynnig Westinghouse.
Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi dweud ei fod ar ddeall bod gan y cwmni o’r Unol Daleithiau ddiddordeb yn y safle.
“Er gwaethaf cyhoeddiad hynod siomedig Hitachi, rwy’n dal i fod yn optimistaidd iawn ar gyfer safle Wylfa”, meddai.
“Mae yna gyfleoedd niwclear enfawr ar draws Gogledd Cymru.
“Dyma’r safle gorau yn y Deyrnas Unedig, a gellir dadlau mai dyma’r safle gorau yn Ewrop.”
Ychwanegodd Ken Skates y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a partneriaid eraill i archwilio gwahanol opsiynau.
Trafodaethau yn parhau
Roedd disgwyl i benderfyniad terfynol ar ganiatâd cynllunio ar y safle gael ei wneud ddiwedd fis Medi.
Erbyn hynny bydd rhaid i Lywodraeth Prydain benderfynu a ydyn nhw am roi caniatâd cynllunio ar gyfer cynlluniau gwreiddiol grŵp Hitachi ai peidio.
Ymateb cymysg
Bu ymateb cymysg i’r newyddion bod grŵp Hitachi yn tynnu’n ôl o’r cynlluniau, gyda grŵp PAWB yn croesawu’r penderfyniad, tra bod Aelod Seneddol Ynys Môn yn San Steffan wedi datgan ei siom.