Mae Janet Finch-Saunders AoS – Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn mynegi ei phryder ynghylch penderfyniad Hitachi i dynnu allan o brosiect Wylfa Newydd.

Yna, dywedodd Horizon Nuclear Power y bydd yn dod â’i weithgareddau i ddatblygu’r gwaith yn Ynys Môn i ben.

Ychwanegodd Janet Finch-Saunders fod Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Horizon Nuclear Power, wedi dweud bod Wylfa yn parhau i fod yn safle dymunol iawn ar gyfer adeiladu niwclear newydd, ac y bydd Horizon yn gwneud ei gorau glas i hwyluso datblygu’r safle yn y dyfodol.

Yn ei llythyr, dywedodd:

“Ynghyd â bod yn ergyd fawr i’r broses o ddatgarboneiddio – mae newid i bŵer niwclear yn elfen allweddol tuag at gyflawni uchelgais di-garbon y DU erbyn 2050. Mae hefyd yn newyddion drwg iawn o ran creu swyddi gwyrdd, lefelu’r economi i fyny, diwallu ein hanghenion ynni, ac i bobl Ynys Môn a Gogledd Cymru gyfan.”

Mae Mrs Finch-Saunders hefyd wedi gofyn i Mr Drakeford egluro pa gamau y bydd yn eu cymryd i gynorthwyo Horizon i hwyluso prosiect niwclear ar Ynys Môn:

“Rwyf hefyd wedi gofyn i [Brif Weinidog Cymru] gyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer sicrhau diddordeb mewn datblygu prosiect niwclear ar y safle, a phenderfynu a oes unrhyw bosibilrwydd y bydd y lleoliad yn cael ei ystyried ar gyfer adweithydd modiwlaidd bach.”