Profion coronafeirws: beth sy’n digwydd?

Golwg ar y sefyllfa brofi yng Nghymru a Phrydain

Lleu Bleddyn
gan Lleu Bleddyn

Fis Gorffennaf cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £32m i gyflymu’r amser mae’n ei gymryd i roi canlyniadau profion coronafeirws.

Fis yn ddiweddarach mae problemau capasiti mewn labordai yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig wedi arwain at bobol yn methu cael eu profi, neu yn gorfod teithio’n bell o’u cartrefi i gael mynediad at brofion.

Mae pryderon hefyd am yr amser mae’n ei gymryd i roi canlyniadau profion coronafeirws.

O ganlyniad mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gynyddu capasiti profion yng Nghymru er mwyn peidio bod mor ddibynnol ar Labordai Profi Lighthouse y Deyrnas Unedig.

Yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghaerdydd, Abertawe a Rhyl yn dechrau prosesu profion 24 awr y dydd o fis Hydref ymlaen.

Ac eto, hyd yn oed wedi i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £32m i gyflymu’r broses, mae adroddiadau mai megis dechrau mae’r broses o gyfweld pobol ar gyfer 160 o swyddi mewn labordai fydd yn agor fis Tachwedd.

Mynd ymlaen ‘am wythnosau’

Mae unedau profi symudol i’w cael, sydd yn gallu profi 300 y dydd, ond mae’r rhain wedi cael eu cyfyngu i 60 o brofion y dydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n awyddus i warchod cyflenwad.

Mae’r unedau symudol yn cael eu rhedeg ar y cyd gan labordai Lighthouse, y sector breifat, llywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r llywodraethau datganoledig.

Wrth siarad â BBC Radio Wales wythnos yma dywedodd Vaughan Gething fod y sefyllfa yn “annerbyniol” a bod gwersi i’w dysgu.

“Nid yw’r [problemau hyn] yn mynd i gael eu datrys am wythnosau ac ni allwn weld y sefyllfa yma’n ailadrodd dro ar ôl tro dros y tair wythnos nesaf,” meddai.

“Yr hyn rydw i’n edrych i’w wneud yw symud ein hunedau profi symudol – ceisio symud mwy o’r rheini i gapasiti’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Byddai hynny’n golygu na fyddem yn cael y broblem hon.

“Felly pe bai cynnydd mewn achosion, ac ein bod ni angen unedau profi symudol, ni fyddai rhaid i ni ddibynnu ar labordai Lighthouse.”

System brofi “well na gweddill y byd”

Mae’n bron i bedwar mis ers i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, ddweud wrth Aelodau Seneddol bydd system profi ac olrhain y Deyrnas Unedig yn “well na gweddill y byd”.

“Bydd gennym system profi ac olrhain a fydd yn well na gweddill y byd – a bydd, bydd ar waith – bydd ar waith erbyn Mehefin 1” meddai yn y Tŷ Cyffredin fis Mai.

Ond wrth wynebu Pwyllgor Cyswllt y Tŷ Cyffredin ddydd Mercher (Medi 17), bu rhaid i’r Prif Weinidog gydnabod nad oedd y sefyllfa’n “ddelfrydol” gan fod y galw yn fwy na’r capasiti.

“Does gennym ni ddim digon o gapasiti profi nawr oherwydd, mewn byd delfrydol, hoffwn brofi pawb sydd am gael prawf ar unwaith”, meddai wrth y Pwyllgor.

Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David T C Davies: “Felly ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, rydym yn gweithio’n galed iawn, mae Llywodraethau o bob math o wahanol berswâd gwleidyddol yn gweithio’n galed ac yn gweithio gyda’i gilydd i gynyddu profion ac i ateb y galw.”

Mae’n debyg bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cyfyngu’r profion i’r grwpiau sydd eu hangen fwyaf yn Lloegr, gan gynnwys gweithwyr y sector iechyd a gofal, ond does dim bwriad o gyflwyno cynlluniau tebyg yng Nghymru ar hyn o bryd.

← Stori flaenorol

Ymestyn cynllun Cymorth i Brynu Cymru

Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn tan fis Mawrth 2022 gyda’r posibilrwydd o estyniad pellach tan fis Mawrth 2023

Stori nesaf →

Deddfwriaeth Brexit ddadleuol yw’r “peth iawn i’w wneud” – Ysgrifennydd yr Alban

Gweinidogion cyllid o’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghaerdydd, Caeredin a Belffast yn cyfarfod i leisio eu pryderon am y Bil

Hefyd →

Llun y Dydd

Bethan Lloyd

Mae Sadwrn Barlys wedi bod yn atyniad yn nhref Aberteifi ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg