Wrth siarad â Phwyllgor Cyswllt Tŷ’r Cyffredin, cyfaddefodd Boris Johnson heddiw (16 Medi) nad oes digon o gapasiti profi am y coronafeirws

Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pwyllgor Cyswllt: “Does gennym ni ddim digon o gapasiti profi nawr oherwydd, mewn byd delfrydol, hoffwn brofi pawb sydd am gael prawf ar unwaith.”

Yna aeth ymlaen i annog pobl heb symptomau i aros i ffwrdd o ganolfannau profi – er ei fod yn dweud ei fod yn deall pam y gallent fod am gael gwybod a oedd ganddynt Covid-19.

Dywedodd: “Dw i’n gwybod bod llawer o bobl wedi cael profiadau cas, ac rwy’n cydymdeimlo â nhw.

“Ac rydym yn ceisio cael cymaint o brofion ag y gallwn. Ond mae 89% yn cael eu canlyniadau o fewn 24 awr, os oes gennych ‘brawf personol’ [in-person test].

“Ac mae’r pellter y mae’n rhaid i chi deithio i gael prawf wedi gostwng yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Ar gyfartaledd, o tua chwech neu saith milltir i tua phum milltir.

“Rydym yn rhoi llawer mwy o brofion allan.”

Targed o 500,000 y dydd

Dywedodd y Prif Weinidog wrth ASau: “Mae popeth yn cael ei wneud y gallwn ei wneud i gynyddu capasiti profi.”

Dywedodd fod hyn yn cynnwys “awtomeiddio, profi fesul llwyth, a sicrhau cyflenwadau o dramor”.

Dywedodd fod cyfanswm o bedwar labordy newydd yn cael eu hadeiladu ledled Prydain a bod 300 o bobl am gael eu cyflogi.

“Mae’r capasiti profi yn ystod y pythefnos diwethaf wedi cynyddu 10%,” ychwanegodd.

“Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod y galw wedi cyflymu’n aruthrol yn ystod yr wythnosau diwethaf,” meddai wrth ASau.

Addawodd y byddai capasiti ar gyfer 500,000 o brofion y dydd erbyn diwedd mis Hydref.

Profi yng Nghymru

O ran profi yng Nghymru, ailadroddwyd hyn gan Weinidog Swyddfa Cymru, David T C Davies:

“Rydym wedi cymryd camau breision i gynyddu nifer y profion dyddiol sydd ar gael, ond nid yw’n ddigon eto yng Nghymru na Lloegr, nac mewn rhannau eraill o’r DU, i ateb y cynnydd enfawr yn y galw rydym wedi’i weld dros yr wythnosau diwethaf.

“Felly mae Llywodraeth y DU wedi gosod targed o 500,000 y dydd o gapasiti profi ar gyfer diwedd mis Hydref ac rydym hefyd yn cynyddu nifer y safleoedd profi i 500 erbyn diwedd mis Hydref.

“Felly ledled Cymru a’r DU, rydym yn gweithio’n galed iawn, mae Llywodraethau o bob math o wahanol berswâd gwleidyddol yn gweithio’n galed ac yn gweithio gyda’i gilydd i gynyddu profion ac i ateb y galw.”