Bydd mudwyr sydd wedi croesi’r Sianel mewn cychod bach yn cael eu hanfon i farics milwrol 300 milltir i ffwrdd yn Sir Benfro tra bod eu ceisiadau am loches yn cael eu prosesu.

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, am y penderfyniad i ddefnyddio safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn ger Penalun yn Sir Benfro.

Deellir bod y barics yn cael eu hystyried gan y Swyddfa Gartref, ochr yn ochr â llety dros dro yn Napier Barracks yn Folkestone, Caint.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Cyhuddodd Llywodraeth Cymru Lywodraeth y DU o beidio ag ymgynghori â’r gymuned leol.

“Ni wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori â’r gymuned leol, gwasanaethau lleol, na ni, ynglŷn â’u cynlluniau i ddefnyddio canolfan filwrol yng Nghymru ar gyfer ceiswyr lloches,” meddai mewn trydariad.

“Credwn fod pobl sy’n dianc rhag rhyfel a gwrthdaro yn haeddu’r dechrau gorau posibl mewn gwlad newydd. Rhaid i ni wneud yn well.”

Dywedodd Mr Llywelyn y gallai’r barics gartrefu 250 o fudwyr tra bod eu ceisiadau am loches yn cael eu prosesu.

Llythyr y Comisiynydd Heddlu a Throsedd

Yn ei lythyr, mae’r comisiynydd sy’n cynrychioli Plaid Cymru yn nodi ei “bryderon sylweddol” am y diffyg strategaeth, manylion ac ymgynghoriad ynghylch y cynlluniau hyn.

“Nid wyf i’n bersonol yn gallu deall yn llawn y rhesymeg dros ddewis safle Penalun, a hoffwn gael eglurhad am sut y daethpwyd i’r penderfyniad hwn a sut y bydd y logisteg arfaethedig yn gweithio,” ysgrifennodd.

“Bydd yn rhaid i geiswyr lloches, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, deithio pum awr arall a 300 milltir i safle arfaethedig ger Penalun, Sir Benfro, er na fydd grym i’w cadw yno unwaith y byddant ar y safle.

“Mae’r safle a’r gymuned leol yn annhebygol, yn fy marn i, o fod â’r seilwaith angenrheidiol i gefnogi eu hanghenion a bydd lleoliad y safle yn ei gwneud yn anodd iawn cael gafael ar wasanaethau i unigolion sy’n agored i niwed.

“Rwy’n sylweddoli’n llwyr fod angen gwneud penderfyniadau anodd er budd y rhai sy’n ceisio lloches a’n cymunedau lleol.”

Dywedodd Mr Llywelyn ei fod am weld “cynllunio manwl, ymgysylltu â’r gymuned, a thryloywder wrth wneud penderfyniadau”.

Ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig:

“Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, mae’r Llywodraeth yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ac ar draws adrannau i sicrhau llety pellach ac mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cynnig rhai o’i safleoedd.

“Wrth ddefnyddio llety wrth gefn rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol a’r heddlu, drwy gydol y broses i sicrhau gwerth am arian a bod gan geiswyr lloches sy’n agored i niwed, a fyddai fel arall yn anghenus, lety addas tra bod eu hawliadau’n cael eu prosesu.”