Dyma’r ffigurau diweddaraf ar gyfer y ‘gyfradd saith diwrnod’ o achosion Covid-19 newydd fesul ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 13 Medi, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a phrofion a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y tri diwrnod diwethaf (Medi 14-16) wedi’i hepgor gan ei fod yn anghyflawn ac yn debygol o gael ei ddiwygio.

Caerffili

Yng Nghaerffili, cofnodwyd 214 o achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 13 Medi – sy’n cyfateb i 118.2 fesul 100,000 o bobl. Dyma’r gyfradd uchaf yng Nghymru ac mae wedi cynyddu o 94.4 yn y saith niwrnod hyd at Fedi 6.

Rhondda Cynon Taf

Rhondda Cynon Taf, sydd wedi gosod cyfyngiadau newydd, sydd â’r gyfradd uchaf-ond-un, i fyny o 48.9 i 97.0, gyda 234 o achosion newydd.

Casnewydd

Mae Casnewydd yn y trydydd safle. Yma mae’r gyfradd wedi codi o 16.2 i 65.9, gyda 102 o achosion newydd.

Y rhestr lawn

Dyma’r rhestr yn llawn. O’r chwith i’r dde, nodir: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 13; nifer (mewn cromfachau) yr achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 13; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 6; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 6.

Caerffili 118.2 (214), 94.4 (171)

Rhondda Cynon Taf 97.0 (234), 48.9 (118)

Casnewydd 65.9 (102), 16.2 (25)

Merthyr Tudful 56.4 (34), 53.0 (32)

Blaenau Gwent 31.5 (22), 11.5 (8)

Conwy 29.9 (35), 11.1 (13)

Powys 28.7 (38), 24.2 (32)

Sir y Fflint 27.5 (43), 14.7 (23)

Pen-y-bont ar Ogwr 26.5 (39), 19.7 (29)

Ynys Môn 20.0 (14), 2.9 (2)

Torfaen 19.2 (18), 9.6 (9)

Wrecsam 18.4 (25), 25.0 (34)

Caerdydd 16.9 (62), 22.3 (82)

Sir Ddinbych 16.7 (16), 9.4 (9)

Gwynedd 15.3 (19), 9.6 (12)

Castell-nedd Port Talbot 14.0 (20), 20.2 (29)

Ceredigion 12.4 (9), 4.1 (3)

Abertawe 12.1 (30), 15.8 (39)

Sir Gaerfyrddin 10.6 (20), 12.2 (23)

Bro Morgannwg 9.0 (12), 12.0 (16)

Sir Benfro 5.6 (7), 7.2 (9)

Sir Fynwy 4.2 (4), 3.2 (3)