Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi dweud y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael rôl fwy o ran gwariant ar brosiectau yn y gwledydd datganoledig.

Wrth ymateb yn nadl cam pwyllgor Mesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, dywedodd Mr Cairns: “O ran datganoli, mae Whitehall wedi bod yn amharod i fod mor gadarn wrth ddilyn rhai polisïau ag yr oedd y sefyllfaoedd gwleidyddol ac economaidd yn mynnu.”

Ychwanegodd: “Pan rydych yn byw yn un o’r cymunedau hynny o dan yr amgylchiadau hynny, nid oes ots gennych o ble y daw’r cymorth, rydych am i’r Llywodraeth allu cynnig gobaith a chyfle a chwarae rhan yn y gwaith o sicrhau newid.”

Ymateb y Blaid Werdd

Dywedodd Caroline Lucas, cyn-arweinydd y Blaid Werdd, y dylai unrhyw wariant uniongyrchol gan San Steffan yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon fod yn gyson â pholisïau gwyrdd datganoledig.

Wrth siarad am y gwelliant a gyflwynwyd ganddi, dywedodd: “Mae’n hanfodol, os a phan fydd gweinidogion yn dewis arfer y pwerau cymorth ariannol uniongyrchol hyn, eu bod yn gwneud hynny mewn modd sy’n gyson ac yn gydnaws ag unrhyw nodau a thargedau amgylcheddol a hinsawdd yn y rhannau perthnasol o’r DU.”