Bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth Brexit ddadleuol, hyd yn oed os bydd y gweinyddiaethau datganoledig yn gwrthod rhoi caniatâd ffurfiol iddi, meddai Ysgrifennydd yr Alban, Alastair Jack.

Mynnodd Mr Jack mai gwthio Bil y Farchnad Fewnol drwy San Steffan – hyd yn oed heb gefnogaeth Llywodraethau’r Alban a Chymru – yw’r “peth iawn i’w wneud”.

Cyfarfod

Daeth ei sylwadau wrth i weinidogion cyllid o’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghaerdydd, Caeredin a Belffast gyfarfod ddydd Iau (17 Medi) i leisio eu pryderon am y ddeddfwriaeth ar y cyd.

Dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru Rebecca Evans ei bod yn pryderu’n fawr bod y Bil yn rhoi pwerau i weinidogion y DU, am y tro cyntaf ers datganoli, ariannu gweithgarwch mewn meysydd sydd wedi’u datganoli’n glir i Gymru.

Daw sylwadau Rebecca Evans wedi i Jeremy Miles Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, amlinellu ei bryderon am y Bil.

Mae un academydd cyfreithiol, Adam Tomkins, athro cyfreithiol ym Mhrifysgol Glasgow, wedi dweud ei bod yn debygol iawn y bydd yn rhaid “diwygio’r Bil yn sylweddol ac yn sylweddol cyn iddo gael ei ddeddfu”.

Roedd yr Athro Tomkins yn siarad wedi i gynghorydd cyfreithiol uchaf Llywodraeth y DU yn yr Alban, yr Arglwydd Keen, ymddiswyddo o ganlyniad i’r Bil, gan nodi’r cynlluniau dadleuol i dorri cyfraith ryngwladol fel rheswm.

Wrth siarad am ymddiswyddiad yr Arglwydd Keen, dywedodd yr Athro Tomkins: “Rwy’n drist iawn o’i weld yn mynd, mae wedi bod yn […] eithriadol.”

Yr ymateb

Mae’r Arglwydd Dafydd Wigley hefyd wedi dweud, wrth siarad â golwg360, ei fod yn disgwyl i aelodau seneddol “ddangos eu dannedd” wrth gyflwyno gwelliannau i Fil y Farchnad Fewnol yr wythnos nesaf.

Ac mae’r economegydd Dr John Ball yn dweud bod Bil y Farchnad Fewnol yn tanseilio dros 70 mlynedd o ddatblygiad economaidd yng Nghymru.

Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, eisoes wedi dweud bod y Bil yn “ffiaidd” ac y bydd yn chwalu datganoli – neges sydd wedi ei hategu gan Liz Saville-Roberts, a ddywedodd ei fod yn “atsain bryderus” o helynt boddi Cwm Tryweryn.

Fodd bynnag, gwrthod honiadau o’r fath wnaeth Mr Jack, gan fynnu y byddai’r Bil yn cryfhau’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd: “Mae’r syniad bod hyn yn dinistrio datganoli yn ffantasi ac yn fwy felly pan ddaw o blaid sydd am ei dinistrio’n gyfan gwbl a symud at annibyniaeth.”

Mae ei gyd-geidwadwr yn San Steffan, Alun Cairns, cyn-Ysgrifennydd Cymru, wedi cyfaddef mai nod y Bil yw rhoi rôl fwy i Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran gwariant ar brosiectau yn y gwledydd datganoledig.