Er na fydd cwmni o Japan yn bwrw ati â chynllun Wylfa Newydd, mae ymgyrchydd yn dadlau bod difrod eisoes wedi ei wneud “ar sawl lefel”.

Ar ddechrau’r wythnos cyhoeddodd cwmni Hitachi y byddan nhw’n cefnu ar gynllun i godi atomfa newydd yng Nghemaes, Ynys Môn.

Esgorodd y cyhoeddiad ar ymateb cymysg, gyda gwleidyddion lleol yn rhannu eu siom ac ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn croesawu’r cam.

Er bod hyn yn newyddion da i PAWB (Pobol Atal Wylfa B), mae Robat Idris, aelod o’r grŵp, yn egluro bod y sefyllfa yn chwerwfelys am fod niwed eisoes wedi’i achosi.

Yn sgil ymdrechion Hitachi mae’n gofidio bod y bobol leol wedi colli ffydd yng ngallu ei hunain i wireddu ffyniant heb help allanol.

“Wel dw i’n meddwl bod y difrod i feddyliau pobol o bob oed – pobol ifanc yn arbennig – wedi bod yn aruthrol,” meddai wrth golwg360.

“A’r rheswm am hynny yw’r diffyg addysg gywir a’r diffyg trafodaeth gan arweinwyr cymdeithas – sef y gwleidyddion lleol a Llywodraeth Cymru – a’r sefydliad addysgol.

“I bob pwrpas cafodd Wylfa ei llyncu fel yr unig achubiaeth posib i’r economi… felly mae’r effaith seicolegol ar bobol yn enfawr dw i’n meddwl.

“Hynny ydy, mae’r ddibyniaeth ar y cwmnïau mawr allanol wedi cael ei ddangos i fod yn ffaeledig.”

Mae’n ategu bod yna ddifrod “weledol” yn sgil y “cloddio a thyrchu” a fu ar y safle.

Dyfodol y safle

Wrth edrych at y dyfodol mae’n dweud bod PAWB yn “ffyddiog” na fydd Hitachi yn rhoi cynnig ar geisio adfywio’r prosiect.

Er hynny mae’n teimlo bod yna “bosibilrwydd o rywun arall yn dod i mewn”, sydd wedi ei grybwyll yn Senedd San Steffan a chan Weinidog Cysgodol y Ceidwadwyr yn y Bae eisoes, a bod yr ymgyrchwyr yn teimlo “bod y lobi niwclear yn mynd i dal i wthio, er gwaetha’ popeth”.

“Mae yna gwestiynau pwysig i’w gofyn ynglŷn â beth sy’n mynd i ddigwydd i’r safle o hyn ymlaen,” meddai.