Mae prydlondeb ar y rheilffyrdd wedi bod ar ei orau erioed wrth i wasanaethau a galw blymio yn ystod pabdemig y coronafeirws, mae ffigurau newydd yn dangos.

Gwnaed tua 86.4% o’r galwadau mewn gorsafoedd o fewn munud i’r hyn a nodwyd ar yr amserlen rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, meddai’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (yr ORR).

Mae hyn yn cymharu â 69.4% yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Roedd cyfran y trenau a gyrhaeddodd eu cyrchfan o fewn pump neu deg munud i’r hyn a nodwyd ar yr amserlen yn 96.2%.

Dyma’r perfformiad gorau ers dechrau cadw’r cofnodion cyfredol ym 1997.

“Gostyngiad sylweddol”

Cafwyd “gostyngiad sylweddol” o ran gwasanaethau trên ar ôl i gyfyngiadau’r pandemig gael eu cyflwyno ym mis Mawrth, meddai’r ORR.

Roedd tua 1.2 miliwn o drenau’n rhedeg ar draws rheilffyrdd Prydain rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, cwymp o 36.7%.

Roedd hyn yn cyd-daro â gostyngiad enfawr yn y defnydd wrth i bobl gael eu hannog i aros gartref.

Dengys data’r Adran Drafnidiaeth fod y galw, dros y chwarter, wedi gostwng cyn ised â 4% o’r lefelau cyn y pandemig, ac nad oedd lefel y galw fyth yn fwy na 17% o lefelau cyn y pandemig yn ystod y cyfnod.

Cynyddodd gwasanaethau trên tua 90% o’r lefelau arferol yn gynharach y mis hwn, wrth i ysgolion ailagor ac wrth i weithwyr yn Lloegr, ond ddim yng Nghymru, gael eu hannog i ddychwelyd i swyddfeydd.