Mae golygydd newydd y Daily Post Dion Jones wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn awyddus i greu perthynas gyda darllenwyr ac “eisiau pobol i ddod ata’i i sgwrsio.”
Dion Jones yw’r golygydd ieuengaf yn hanes 165 mlynedd y Daily Post a’r Cymro Cymraeg cyntaf i gael y swydd.
Mae ef hefyd yn gyfrifol am y Caernarfon & Denbigh Herald, Holyhead & Anglesey Mail, a North Wales Weekly News, yn ogystal â gwefan y Daily Post, North Wales Live.
“Mae’n anhygoel, dw i’n dal i godi yn y bore braidd yn chwil.. mae hi bendant yn cymryd amser i ddod i arfer,” meddai.
Ond does dim amheuaeth bod newyddiaduriaeth yng ngwaed Dion Jones.
“Dw i wedi eisiau bod yn newyddiadurwr ers dw i’n 13 neu 14 oed ac roedd gennyf uchelgais o fod yn olygydd cyn diwedd fy ngyrfa ond doeddwn i ddim yn siŵr os byddai hynna’n digwydd, yn enwedig mor gynnar â hyn.”
“Ro’n i’n bookworm yn ysgol ac yn darllen lot, mae Mam wastad yn dweud mod i’n darllen cyn mod i’n cropian.
“Ac wedyn yn Ysgol Syr Hugh Owen, dw i’n cofio gorfod ‘sgwennu erthygl am Lazarus yn atgyfodi mewn gwers Addysg Grefyddol a chael marciau da.
“Yna, mewn noson rieni awgrymodd yr athro, Gareth Evans, y dylwn i edrych ar yrfa mewn newyddiaduriaeth a dw i heb edrych yn ôl.”
“Creu mwy o sgwrs efo’r darllenwyr a chymunedau”
Un uchelgais sydd gan Dion Jones yn ei swydd newydd fel golygydd ydi “creu mwy o sgwrs efo’r darllenwyr a chymunedau.”
“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cymunedau ac mae’r ffaith mod i wedi gweithio yn swyddfa Gaernarfon ac wedi byw yna yn golygu bod lot o bobol yn fy nabod i yn y gymuned.
“Dw i wrth fy modd yn siarad efo pobol ac wedi cyfarfod lot o bobol dros y blynyddoedd drwy weithio i Cambrian News ac ati.
“Dw i’n gobeithio y bydd pobol yn dod ata’i ac isio sgwrsio am y papur neu’r wefan.”
Mae Dion Jones hefyd yn awyddus i “roi mwy o ffocws i gymunedau Cymreig.”
“Yn bendant dw i isio rhoi mwy o ffocws i gymunedau Cymreig yng nghefn gwlad, mae gennyf angerdd mawr tuag at roi sylw i’r cymunedau yma.
“Dw i isio edrych ar bethau megis tai haf ym Morfa Nefyn, siopau a thafarndai yn cau yng nghefn gwlad ac ar bethau megis diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae cefn gwlad yn dueddol o wynebu sialensiau tydi ardaloedd eraill ddim.”
“Sioc” o fod y golygydd cyntaf sy’n siarad Cymraeg
Dywed Dion Jones ei fod wedi cael “ychydig o sioc” wrth glywed mai ef oedd y Cymro Cymraeg cyntaf i gael y swydd yn hanes 165 mlynedd y Daily Post.
“Mi faswn i wedi meddwl bod rhywun ynghynt wedi cael y swydd, ond dw i’n falch mod i wedi.
“Mae nifer o bobol wedi cysylltu yn dweud eu bod nhw’n falch bod yna olygydd Cymraeg ac mae hynna’n meddwl lot i mi.
“Dw i’n ofnadwy o ddiolchgar ac yn gobeithio talu’r ffydd yn ôl.”
“Cyfnod anodd i bapurau’n gyffredinol”
“Yn amlwg mae hi’n gyfnod anodd i bapurau’n gyffredinol ac mae’r coronaferiws wedi gwneud pethau’n waeth.
“Dyw pobol ddim wedi gallu mynd allan i brynu papur newydd yn ystod y lockdown ac mae pawb wedi cael eu heffeithio.
“Yr her i ni ydi trio rhoi cynnyrch ar-lein ac mewn print a theimlo bod y gymuned efo diddordeb a bod pobol isio darllen.”