Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi y bydd cynllun Cymorth i Brynu Cymru yn cael ei ymestyn.

Roedd y cynllun i fod i gau i ymgeiswyr ddiwedd fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn tan fis Mawrth 2022, gyda’r posibilrwydd o estyniad pellach tan fis Mawrth 2023 – yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ers ei sefydlu yn 2014, mae dros 10,215 o gartrefi wedi’u prynu drwy’r cynllun.

Bydd rhai newidiadau i’r cynllun o fis Ebrill 2021, gan gynnwys lleihau’r cap ar brisiau o £300,000 i £250,000, a bydd rhaid i bob cartref allu derbyn band eang.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael cartref diogel a fforddiadwy o ansawdd da yw uchelgais y llywodraeth hon.

“Os nad oes cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yna bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu cam tri o gynllun Cymorth i Brynu Cymru.

“Rwy am sicrhau bod cymorth ar gael i bawb sydd ei angen wrth wneud y pryniant mwyaf arwyddocaol yn ei bywyd a chaniatáu i ddatblygwyr gynllunio ar gyfer eu dyfodol.

“Byddwn yn parhau i gydweithio â datblygwyr a’r holl randdeiliaid dros y misoedd nesaf i sicrhau bod cartrefi sy’n cael eu prynu drwy Cymorth i Brynu Cymru nid yn unig o ansawdd da ond hefyd yn barod i dderbyn band eang fel bod gan berchnogion cartrefi fynediad parod at wasanaethau hanfodol”.