Mae’r trafodaethau ar gyfer Wylfa Newydd yn parhau, wedi i ddatblygwyr y safle, grŵp Ynni Niwclear Horizon, anfon llythyr at Lywodraeth San Steffan yn gofyn am estyniad.

Roedd disgwyl i benderfyniad terfynol ar ganiatâd cynllunio gael ei wneud ddoe (dydd Mercher, Medi 30), ond mae’r penderfyniad wedi cael ei ohirio tan Ragfyr 31.

Cafodd yr estyniad ei groesawu gan Janet Finch-Saunders, Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Cefndir

Erbyn Rhagfyr 31, bydd rhaid i Lywodraeth Prydain benderfynu a ydyn nhw am roi caniatâd cynllunio ar gyfer cynlluniau gwreiddiol grŵp Hitachi neu beidio.

Bythefnos yn ôl, cadarnhaodd grŵp Hitachi eu bod yn tynnu’n ôl o’r cynlluniau ar gyfer datblygu safle Wylfa Newydd ym Môn.

Bu ymateb cymysg i’r newydd am hwnnw, gyda grŵp PAWB yn croesawu’r penderfyniad, tra bod Aelod Seneddol Ynys Môn yn San Steffan wedi datgan ei siom.

Yn y cyfamser mae Janet Finch-Saunders, Aelod Seneddol Aberconwy yng Nghaerdydd, eisoes wedi mynegi y dylid ystyried safle Wylfa ar gyfer adweithydd modiwlaidd bach.

“Safle delfrydol ar gyfer ynni niwclear”

Heddiw (dydd Iau, Hydref 1), croesawodd Janet Finch-Saunders y cyhoeddiad bod y Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer Wylfa Newydd wedi ei ymestyn nes diwedd Rhagfyr.

“Mae Wylfa Newydd yn parhau i fod yn safle delfrydol ar gyfer ynni niwclear yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y gweithlu medrus sydd yn y gogledd,” meddai.

“Byddai’r prosiect hollbwysig hwn yn caniatáu bod digon o egni ar gyfer pobol Cymru, yn ogystal â chymryd cam tuag at ddatgarboneiddio economi Cymru.

“Mae ymestyn y Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn caniatáu i ni gefnogi Horizon wrth iddyn nhw chwilio am gefnogaeth ariannol er mwyn sicrhau cytundeb ar gyfer y safle.

“Roedd yn hanfodol eu bod yn cael y cyfle hwn, er mwyn sicrhau nad ydy buddion posib Wylfa Newydd i bobol Ynys Môn yn cael eu hanghofio.

“Ar ôl gyrru llythyr brys i Mark Drakeford wedi penderfyniad Hitachi i dynnu’n ôl o’r cynllun, rwyf wedi derbyn ymateb cadarnhaol sydd yn fy nghysuro bod yr holl randdeiliaid allweddol wedi cytuno i gadw at eu cyfrifoldebau wrth geisio cyflwyno’r canlyniad gorau posib i Wylfa.

“Mae’r cyhoedd a Llywodraeth Cymru yn haeddu cael gwybod beth yw’r cyfrifoldebau hynny, a pha dargedau sydd wedi’u gosod.”