Cafodd dros 50 o adeiladau eu goleuo’n goch ddoe er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng sy’n wynebu pobol sy’n gweithio yn y diwydiant digwyddiadau yng Nghymru yn sgil y coronafeirws.

Roedd theatrau, lleoliadau cerdd, canolfannau celfyddydol a chestyll ymhlith yr adeiladau oedd wedi eu goleuo’n goch neithiwr (Medi 30).

Mae ymgyrch We Make Events yn galw ar lywodraethau ledled y byd i gefnogi’r bobl a’r cwmnïau sydd ynghlwm â’r sector digwyddiadau nes bydd digwyddiadau torfol yn gallu dychwelyd yn ddiogel.

‘Torcalonnus’

Rhybuddiodd Sarah Cole, Prif Gydlynydd ymgyrch ‘We Make Events Cymru’, y gallai ansefydlogrwydd ariannol effeithio ar iechyd meddwl pobol.

“Mae gan bawb yn y diwydiant ymrwymiadau ariannol – heb waith rydym wedi ein heffeithio’n ariannol a gall hyn gael effaith niweidiol ar iechyd meddwl pobol”, meddai.

“Mae pobol treulio blynyddoedd yn hyfforddi i allu gweithio yn y diwydiant hwn, rydym yn gweithio oriau hir ac yn sydyn iawn mae’r cwbl wedi ei dynnu oddi wrthym.

“Mae’n dorcalonnus na all rhai pobol gefnogi eu teuluoedd yn ariannol.

“Mae’n sefyllfa ofnadwy i bobol fod ynddi.

“Gyda chymaint o adeiladau yng Nghymru yn troi’n goch i gefnogi’r ymgyrch mae’n dangos yr argyfwng sy’n ein hwynebu a’r angen am weithredu ar frys.”

‘Cau ein drysau unwaith eto’

Un o rheini sydd wedi ei heffeithio yw Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd.

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i orfodi tafarndai i gau am 10yh penderfynodd y Clwb i gau eto am gyfnod amhenodol.

“Rydym wedi gwneud y penderfyniad caled i gau ein drysau unwaith eto”, meddai Clwb Ifor Bach mewn datganiad.

“Er ein bod yn hyderus bod y mesurau sydd gennym mewn lle yn sicrhau awyrgylch diogel a chroesawgar, mae’r costau sydd ynghlwm â’r staff ychwanegol sydd ei hangen i gydymffurfio gyda’r canllawiau cyfredol, yn ogystal â’r cyfyngiadau newydd ar oriau agor, yn ei wneud yn ariannol anhyfyw i ni barhau i fasnachu.”

Mae Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, hefyd wedi rhybuddio bod yr “heriau sy’n wynebu’r sector cerddoriaeth fyw [yng Nghaerdydd] yn enfawr”