RHYBUDD: Llun annymunol ymhellach i lawr yn yr erthygl hon.

*

Cafodd cerddwyr sioc frwnt wrth ddarganfod baw dynol ger copa’r Wyddfa ddydd Sul (Medi 27).

Roedd Luke Cartwright, 26, yn dringo’r Wyddfa pan ddaeth ar draws baw dynol a phapur tŷ bach.

Dywedodd fod yn rhaid i gerddwyr osgoi’r pentwr o faw wrth gerdded i fyny’r Wyddfa.

“Roedd o jyst cyn i chdi gyrraedd top y crib, mewn lle fydda ti ddim yn disgwyl ei weld,” meddai Luke Cartwright wrth Wales Online.

“Roedd yno bedwar cerddwr arall o fy mlaen i oedd eisoes wedi ei weld.”

Ychwanegodd: “Roedd o’n amlwg yn ffres. Roeddet ti’n gallu gweld papur tŷ bach ynddo. Roedd o mewn lle ofnadwy.

“Dw i ddim yn gwybod sut bod unrhyw un wedi llwyddo i’w wneud o. Bu’n rhaid i ni fynd o’i gwmpas, ond roedd yno gymaint o bobol yn cerdded felly roedd hi’n anochel bod rhywun yn sathru ynddo.”

Yr ardal yn cael ei “amharchu” – Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri

Mae Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold, wedi dweud bod yr ardal yn cael ei “amharchu.”

“Rydym wedi gweld pob math o bethau’n effeithio Eryri dros y blynyddoedd – pethau megis parcio anghyfrifol, erydiad llwybrau troed, a phob math o daflu sbwriel, gan gynnwys baw dynol,” meddai.

“Er nad yw hyn yn beth newydd, mae’r pwysau wedi bod yn ddifrifol ers i’r lockdown gael ei lacio ar ddechrau mis Gorffennaf.

“Mae’n nifer cymharol fach o bobol, ond maen nhw’n cael effaith negyddol sylweddol a gweladwy.

“Mae’n ddealladwy ein bod ni, fel pobol sy’n byw yma, yn teimlo bod y lle’n cael ei amharchu.

“Pe bydda ti’n mynd i dŷ rhywun sy’n taflu sbwriel ar y Wyddfa, a gwagio bag o sbwriel ar ei stepen ddrws, fydda nhw ddim yn meddwl bod hynna’n iawn.

“Felly’r sialens ydi dangos i bobol sut mae ymddygiad arferol yn edrych yng nghefn gwlad.”

“Digalon” – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae’r digwyddiad hwn wedi ein digalonni a gan leiafrif bychan sy’n meddwl bod hyn yn ymddygiad derbyniol mewn tirwedd mod fregus.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i hyrwyddo negeseuon am y math yma o broblemau er mwyn cadw ein cymunedau yn saff a gwarchod ein tirweddau.

“Mae gennym arwyddion ar ddechrau pob llwybr i fyny’r Wyddfa sy’n pwysleisio ei bod hi wastad yn syniad da ‘mynd cyn i chi fynd’ – mewn geiriau eraill defnyddio’r toiledau yn y meysydd parcio cyn dringo’r mynydd.”

Llun gan Luke Cartwright