Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi dweud bod torri cyfraith ryngwladol “wastad yn syniad drwg” ond fod gwneud hynny yng nghanol pandemig yn “hurt”.

Daw ei sylwadau wrth i’r Undeb Ewropeaidd ddechrau camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Prydain am fynd yn groes i Fil Ymadael Brexit a thorri cyfreithiau rhyngwladol.

Roedd yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud wrth Lywodraeth Prydain fod rhaid iddyn nhw gael gwared ar rannau o Fil y Farchnad Fewnol fyddai’n torri’r gyfraith erbyn diwedd Medi.

Wnaeth Llywodraeth Prydain ddim llwyddo i gael gwared ar y rhannau hynny, sy’n ymwneud yn bennaf â ffin Iwerddon a Gogledd Iwerddon, felly mae’r Undeb Ewropeaidd wedi dechrau ar gamau cyfreithiol yn eu herbyn heddiw (dydd Iau, Hydref 1).

Mae gan Lywodraeth Prydain fis i ymateb i’r llythyr a gafodd ei yrru heddiw gan Ursula von der Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, ac yn gynharach nododd Boris Johnson y byddai’n ymateb “yn y man.”

“Angen cydweithrediad trawsffiniol”

Yn sgil hyn, mae Liz Saville Roberts wedi dweud bod “torri cyfraith ryngwladol wastad yn syniad drwg, ond yng nghanol pandemig byd-eang mae’n hurt.”

“Nawr, yn fwy nag erioed, rydym angen cydweithrediad trawsffiniol, nid ymddwyn fel gwladwriaeth dwyllodrus [rogue state],” pwysleisiodd ar Trydar.

Pasiodd Bil y Farchnad Fewnol ei drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin nos Fawrth (Medi 29).