Mae Siân Gwenllian, Aelod o Senedd Cymru dros Arfon a llefarydd addysg Plaid Cymru, wedi egluro mewn cynhadledd rithiol sut fyddai llywodraeth ei phlaid yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar am ddim i bob teulu.
Eglura ei bod hi’n benderfynol o greu newid yn y maes.
Dywed y byddai’r blaid yn buddsoddi mewn lleoliadau newydd sbon, yn hyfforddi a recriwtio oddeutu 3,000 o swyddi newydd yn y cam cyntaf, ac oddeutu 8,000 o swyddi unwaith bydd y cynllun yn gweithredu’n llawn.
“Gan ddechrau yn y dechrau, rhaid creu sylfaen gadarn i’n cyfundrefn addysg, peth ffôl yw adeiladu tŷ ar dywod”, meddai mewn araith.
“Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr fod rhai pobol yn talu mwy am ofal plant y mis nag y maen nhw’n ei dalu am gael to uwch eu pennau.
“Mae angen gweledigaeth bendant a chlir ar gyfer plant rhwng deuddeg mis hyd at oedran cychwyn yn yr ysgol.
“Yn wahanol i lawer o wledydd eraill ar draws y byd, does yna ddim hanner digon o ffocws wedi bod yn yr oedran cynnar yma.
“Byddai Meithrin Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol yma i deuluoedd Cymru.”
Creu 8,000 o swyddi
Yn ôl Plaid Cymru byddai’r cynllun yn arbed arian i’r pwrs cyhoeddus, yn creu swyddi ac yn osgoi problemau i blant yn y dyfodol.
“Mae Plaid Cymru yn benderfynol o newid hyn, ac yn addo buddsoddi yn helaeth yn y sector, fel bod y tywod o dan y tŷ yn troi yn graig o gynhaliaeth”, meddai Siân Gwenllian.
“Buddsoddiad a fyddai’n talu ar ei ganfed yn y pendraw gan osgoi tynnu arian o’r pwrs cyhoeddus i ddelio gyda phroblemau nes ymlaen.”
“Mae tystiolaeth yn dangos bod plant yn elwa o gymysgu gyda chyfoedion, a phlant o gefndiroedd difreintiedig yn elwa fwyaf”, meddai.
“Mi ddylai gofal ac addysg gynnar fod yn hawl i bob plentyn, a byddai’n galluogi i fwy o bobol – merched yn enwedig i fynd yn ôl i’r gwaith – sydd yn dda i’r economi.
“Byddai Meithrin Cymru hefyd yn trochi plant bach Cymru yn yr iaith Gymraeg ac yn eu paratoi i fod yn drigolion ddwyieithog.”
Covid wedi dangos gwerth addysg
Mae Siân Gwenllian o’r farn fod Covid-19 wedi dangos gwerth addysg ac mai “dyma’r union adeg i greu system well”.
“Mae rhieni wedi gwneud gwaith gwych yn ceisio dysgu eu plant adref ac mae athrawon wedi ceisio dysgu o bell, ond does dim byd yn curo’r berthynas allweddol yna rhwng athrawon a disgyblion yn dysgu gyda’i gilydd mewn dosbarth.
“Mi fyddai Plaid Cymru yn rhoi amser i athrawon wneud eu priod waith, sef dysgu. Gan ddod a mesurau ger bron er mwyn sicrhau hynny.”
Ychwanegodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn creu system asesu unigryw i Gymru i fynd law yn llaw â’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan egluro bod hyn yn angenrheidiol yn dilyn “ffiasgo” yn ymwneud ag arholiadau TGAU a Safon Uwch eleni.