Mae’n ymddangos bod trafferthion wedi bod gyda chanolfannau profi Covid-19 yn Rhondda Cynon Taf.

Yno, mae pobol sydd angen prawf Covid-19 wedi bod yn cael eu gyrru i safle sydd bellach wedi cau, yn ôl yr Aelod Seneddol lleol, Chris Bryant.

Roedd y safle yng Nghwm Clydach, ger Tonypandy, yn cael ei rhedeg gan gwmni Serco a’r apwyntiadau yn cael eu trefnu drwy system ar-lein Llywodraeth Prydain.

Cafodd y safle ei chau neithiwr (Medi 30) gan nad oedd cymaint o alw amdani, ond roedd apwyntiadau ar gyfer heddiw (Hydref 1) yn parhau i gael eu cynnig.

“Ffars llwyr”

Mewn trydariad galwodd Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur, y sefyllfa yn “ffars llwyr.”

Dywedodd iddo gael ei “syfrdanu bod system brofi Serco yn cael ei rhedeg mor wael gan Lywodraeth Prydain.

“Neithiwr roedd pobol yn gallu bwcio apwyntiadau yng Nghlydach ar gyfer heddiw, er bod y safle wedi cau neithiwr.

“Mae dwsinau o bobol wedi troi fyny i safle sydd ddim yn bod!”

Er bod y sefyllfa bellach wedi ei datrys, pwysleisia Chris Bryant “na ddylai hyn fod wedi digwydd.”

Ymateb Llywodraeth Prydain

Mewn ymateb dyweda llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Prydain mai camgymeriad ar y wefan oedd cynnig opsiwn i wneud apwyntiadau yng Nghlydach.

Unwaith y daeth y camgymeriad i’r amlwg, cafodd y sefyllfa ei datrys drwy gael gwared ar yr opsiwn, yn ôl datganiad gan Lywodraeth Prydain.

Dyweda Llywodraeth Prydain fod y rhai oedd wedi bwcio wedi derbyn ymddiheuriad, a’u gyrru ymlaen i’r safle brofi yn Abercynon, sydd tua 4 milltir i ffwrdd.

“Mae system brofi ac olrhain y GIG yn cynnig profion ar raddfa heb ei thebyg – gyda 225,000 o brofion bob diwrnod dros yr wythnos diwethaf – a’r rhan fwyaf yn cael dim trafferthion gyda’r broses,” meddai’r llefarydd.

“Cysylltwyd â phawb oedd wedi bwcio prawf yng Nghlydach ar unwaith, gan eu cynghori i fynd i safle arall yn Abercynon i gael eu profi.”