Mae Plaid Cymru’n rhybuddio am y niwed i’r celfyddydau os na ddaw pecyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i warchod swyddi.
Yn ôl Siân Gwenllian, llefarydd diwylliant y blaid, gallai’r sector a miloedd o swyddi gael eu colli.
Fe fydd cynllun newydd gan Lywodraeth Prydain yn dod i rym ar Dachwedd 1, ond mae’n annhebygol y bydd digon o arian ar gael i achub yr holl leoliadau sy’n wynebu dyfodol ansicr a’r perygl o orfod cau.
Ac mae’n dweud na fydd modd achub gyrfaoedd gweithwyr llawrydd a chyflogedig oedd yn weddol ddiogel cyn y pandemig.
Bydd Plaid Cymru’n arwain dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Hydref 7) yn galw am gydnabod pwysigrwydd y celfyddydau, y diwylliant a threftadaeth, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ymarferol, gan gynnwys gwarchod:
- y gymuned lawrydd i greu diwylliant mwy cydradd, amrywiol a gwydn
- pobol groenddu a phobol o liw er mwyn sicrhau eu rhan nhw yn y celfyddydau a’r diwylliant
- yr iaith Gymraeg i sicrhau ei bod wrth galon y gweithle a chynnyrch y celfyddydau
- canolfannau diwylliannol a chelfyddydol er mwyn cyfyngu ar geisiadau sydd â’r bwriad o newid y defnydd o’r canolfannau hyn.
Yn ôl ymchwil, mae gweithwyr llawrydd yn cyfrif am 70% o’r gweithlu theatrau a pherfformio, ac fe gollodd 94% o weithwyr llawrydd waith yn sgil y coronafeirws.
Ceisiadau grantiau sy’n ariannu’r rhan fwyaf o brosiectau ar hyn o bryd, a’r rheiny yn ddibynnol i raddau helaeth ar weithwyr llawrydd.
Effaith ddinistriol ac eang
Yn ôl Siân Gwenllian, fe fydd y coronafeirws yn cael “effaith ddinistriol ac eang” ar y celfyddydau yng Nghymru.
“Nid yn unig i’r miloedd sydd wedi neu a fydd yn colli eu swyddi a’u gyrfaoedd, ond heb ddiwydiant creadigol sy’n ffynnu, pwy fydd yn adrodd ein stori rwan?” meddai.
“Mae hi’n warthus fod cynllun cefnogi swyddi San Steffan yn annhebygol o arbed nifer o’n hatyniadau diwylliannol a’n lleoliadau cerddoriaeth fyw rhag cau.
“Gydag un symudiad syml, mae miloedd o swyddi a oedd, hyd yma, wedi cael eu hachub trwy ffyrlo, bellach wedi cael eu categoreiddio fel rhai ‘annichonadwy’.”
Mae hi’n dweud bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cynnig “digon o eiriau cynnes ond dim gweithredoedd nac atebion go iawn” i broblemau tymor byr, canolig a hirdymor.
“I nifer o bobol ifanc yng Nghymru, mae’r celfyddydau wedi bod yn ddewis gyrfa dichonadwy ond gyda’r fath fygythiad i’r diwydiant yng Nghymru, bydd nifer o bobol ifanc unwaith eto’n canfod fod y drws ynghau iddyn nhw pan ddaw i ddechrau eu gyrfaoedd.”