Fe ddaeth i’r amlwg bellach fod aelod seneddol yr SNP sydd wedi bod dan y lach am deithio ar drên er bod ganddi’r coronafeirws, hefyd wedi annerch cynulleidfa eglwysig yn ystod ei thaith.

Yn ôl adroddiadau, roedd Margaret Ferrier, Aelod Seneddol Rutherglen a Gorllewin Hamilton, wedi cael symptomau’r feirws ac wedi cael prawf positif ar ddydd Sadwrn, Medi 26.

Teithiodd hi i San Steffan ddyddiau’n ddiweddarach, cyn dychwelyd ar drên unwaith eto i’r Alban y diwrnod canlynol ar ôl derbyn canlyniad y prawf.

Yn ôl y Daily Record, aeth hi i eglwys ar gyrion Glasgow ar Fedi 27 a darllen o’r allor.

Dywed yr eglwys fod yr helynt yn “destun siom” ac y dylai hi fod wedi hunanynysu, yn unol â chanllawiau’r eglwys hefyd na ddylai neb sy’n teimlo’n sâl neu sy’n hunanynysu wrth aros am ganlyniad prawf fynd yno.

Cafodd chwip y blaid ei thynnu oddi arni ar ôl iddi gyfadde’r hyn roedd hi wedi’i wneud gan ymddiheuro.

Ymddiswyddo?

Mae sawl plaid, gan gynnwys aelodau’r SNP, yn galw ar iddi ymddiswyddo.

Dywedodd Nicola Sturgeon ei bod hi wedi “egluro’n blwmp ac yn blaen” wrthi y dylai gamu o’r neilltu.

Ond mae hi’n dal yn y swydd hyd yn hyn.

Daw’r helynt wrth i Nicola Sturgeon gyfarfod ag ymgynghorwyr i drafod sut i gyflwyno mesurau llymach er mwyn mynd i’r afael â’r feirws yn y wlad.