Mae Gweinidog Iechyd Iwerddon wedi amddiffyn penderfyniad y Llywodraeth wrthod cyngor iechyd cyhoeddus ac i osgoi gwarchae newydd, gan ddweud nad “yw hyn ddim am bwy sy’n gywir a phwy sy’n anghywir.”

Daw sylwadau Stephen Donnelly ar ôl i’r Llywodraeth wrthod argymhelliad gan Dîm Brys Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol (NPHET) i symud y wlad i gyfyngiadau Lefel 5 yn hytrach na Lefel 3.

Mae’r llywodraeth dan y lach am fynd yn erbyn y cyngor ac yn sgil rhybuddion enbyd am ddiffyg capasiti mewn ysbytai.

Ar hyn o bryd, mae 243 o 281 o wlâu gofal dwys yn llawn, gan adael dim ond 38 yn rhydd.

“Mae’r cynnydd mewn capasiti y gall y gwasanaeth iechyd ddarparu yn gyflym yn fwy na 300 o wlâu gofal dwys,” meddai Stephen Donnelly.

“Ond beth am gofio, pan oedd y feirws ar ei anterth, fod gennym ni lawer yn fwy o bobol yn yr ysbyty, a chryn dipyn yn fwy mewn unedau gofal dwys, a ddaethom ni ddim yn agos at fod angen y math o gapasiti uned gofal dwys roedd y gwasanaeth iechyd wedi ei osod.”