Mae Joe Biden yn targedu taleithiau ymylol wrth iddo barhau i ymgyrchu yn y ras arlywyddol yn yr Unol Daleithiau yn absenoldeb yr Arlywydd Donald Trump.

Tra bo’r arlywydd Gweriniaethol yn parhau i wella o’r coronafeirws, mae’r Democrat yn aros ar y llwybr ymgyrchu wrth i’w ymgyrch godi stêm.

Mae Biden wedi teithio i Fflorida am yr ail waith mewn ychydig dros bythefnos, wrth iddo droedio tir yr arlywydd.

Fe fydd e’n mynd o’r fan honno i Arizona ddiwedd yr wythnos – talaith sydd heb gefnogi’r un ymgeisydd Democrataidd ers 1996.

Mae gan Biden gefnogaeth Bernie Sanders, cyn-ymgeisydd Democrataidd arall, wrth iddo yntau ymgyrchu yn New Hampshire a Michigan, gan gynnal digwyddiadau oedd yn cadw at reolau pellter cymdeithasol.

Mae’n ymddangos mai bwriad Joe Biden yw adeiladu mantais sylweddol yn y Coleg Etholiadol, un ffordd o bentyrru pleidleisiau yn y ras i’r Tŷ Gwyn.

Mae Donald Trump, sy’n debygol o golli’r bleidlais boblogaidd trwy’r Coleg Etholiadol, eisoes yn dweud na fydd e’n derbyn canlyniad yr etholiad, gan honni bod defnydd cynyddol o bleidleisiau post yng nghanol y coronafeirws yn debygol o arwain at fwy o dwyll.

Ariannu ymgyrch Joe Biden

Yn ôl adroddiadau, mae Joe Biden am neilltuo mwy na chwe miliwn o ddoleri ar gyfer hysbysebion teledu yn nhalaith Tecsas, sy’n draddodiadol yn dalaith Weriniaethol.

Mae disgwyl hefyd iddo wario pedair miliwn o ddoleri ar hysbysebu yn Georgia, un arall o’r taleithiau Gweriniaethol.

Ond llai o hysbysebion sydd gan Donald Trump yn Ohio, un o’r taleithiau lle wnaeth e ennill yn 2016.

Yn 2016, roedd yr un dacteg yn aflwyddiannus i’r Democratiaid, wrth i Hillary Clinton ennill y taleithiau ymylol ond colli yn rhai o’r cadarnleoedd arferol fel Michigan, Wisconsin a Pennsylvania.

Yn ôl arbenigwyr strategol y Democratiaid, maen nhw’n awyddus i osgoi gwneud yr un camgymeriad eto.