Mae Chris Mepham, amddiffynnwr canol tîm pêl-droed Cymru, yn dweud mai “gêm fel unrhyw gêm arall” yw’r gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr yn Wembley – ond gan gyfaddef fod yna gyffro ychwanegol wrth herio’r Saeson.
Mae’r gêm nos Iau (Hydref 8) yn cychwyn cyfnod prysur i dîm Ryan Giggs, wrth iddyn nhw hefyd herio Gweriniaeth Iwerddon ddydd Sul (Hydref 11) a Bwlgaria nos Fercher nesaf (Hydref 14) yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Ac er mai gêm gyfeillgar yw’r un yn erbyn Lloegr, dywed Mepham, a gafodd ei eni yn Llundain a’i fagu’n gefnogwr QPR, ei fod e’n edrych ymlaen at gael dychwelyd i Wembley yn chwaraewr.
“Dw i wedi bod yno sawl gwaith, a dw i’n meddwl ’mod i wedi mynd yno unwaith i wylio Spurs,” meddai.
“Bydd hi’n ddiddorol i fi ac yn rhywbeth dw i wir yn edrych ymlaen ato.
“Dw i’n credu bod mynd i Wembley yn achlysur enfawr i unrhyw un, boed yn ffeinal y gwpan neu ar gyfer gêm yn erbyn Lloegr. Maen nhw i gyd yn gemau mawr.
“Er mai gêm gyfeillgar yw hi, rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n gêm gystadleuol a byddwn ni’n ei thrin hi fel unrhyw gêm arall.
“Dydych chi ddim wir yn gwahaniaethu rhwng gêm gyfeillgar a gêm gystadleuol o ran eich bod chi eisiau ennill y gêm.
“Bydd hi’r un fath, beth bynnag yw statws y gêm.”
Dwy gêm bwysig i ddilyn
Yn ôl Mepham, mae’r gêm yn erbyn Lloegr yr un mor fawr â’r gemau cystadleuol o safbwynt y chwaraewyr.
“O’r tu allan yn edrych i mewn, oherwydd fod Lloegr yn gêm gyfeillgar, dw i’n credu y bydd y ffocws yn naturiol ar y ddwy gêm i ddilyn,” meddai.
“Ond fel pêl-droedwyr, rydyn ni eisiau ennill pob gêm.
“Ond oherwydd mai Lloegr yw e, mae’n rhoi hwb ychwanegol i chi i’w curo nhw.
“Ond dw i’n credu mai’r ddwy gêm wedyn fydd y rhai lle fyddwn ni wir eisiau cael canlyniadau da, ond bydd perfformiad a chanlyniad da nos Iau yn sicr yn cyfrannu at hynny.”
Herio mawrion Uwch Gynghrair Lloegr
Dywed Connor Roberts, cefnwr de Cymru, ei fod e’n edrych ymlaen at brofi ei hun yn erbyn rhai o oreuon tîm Lloegr.
“[Raheem] Sterling fyddai fe wedi bod ond os dw i’n iawn, fydd e ddim yn chwarae,” meddai.
“Fe wnes i chwarae yn ei erbyn e unwaith yn barod i Abertawe yn erbyn Man City felly ar ôl e, Sancho fwy na thebyg ac yntau’n chwaraewr ar i fyny. Ond dw i ddim yn meddwl ei fod e’n chwarae chwaith!
“Dw i ddim wir yn gwybod yn erbyn pwy fydda i, ond dw i wedi chwarae yn erbyn chwaraewyr da – Perisic i Croatia, Suarez a Cavani i Wrwgwái…
“Does dim ots gyda fi pwy dw i’n chwarae yn eu herbyn nhw, dw i wedi chwarae yn erbyn chwaraewyr da, a bydd yna chwaraewyr da eto y bydda i’n gorfod gwneud fy ngorau yn eu herbyn nhw.”