Mae dau chwaraewr sydd eisoes wedi chwarae dros Loegr ymhlith y saith o chwaraewyr di-gap sydd wedi eu henwi yng ngharfan rygbi Cymru heddiw (dydd Mawrth, Hydref 6).
Chwaraeodd Johnny Williams a Callum Sheedy ym muddugoliaeth y Saeson yn erbyn y Barbariaid yn Twickenham y llynedd.
Ond gan nad ydi Rygbi Lloegr yn dyfarnu capiau am gemau yn erbyn y Barbariaid, mae hawl gan y ddau i fod yn rhan o garfan ddiweddaraf Wayne Pivac ac i wisgo crys coch Cymru yng ngemau’r hydref eleni.
Johnny Williams
Cafodd Johnny Williams ei eni yn Weston-super-Mare ac felly mae e hefyd yn gymwys i Loegr.
Mae hefyd yn gymwys i chwarae dros Gymru yn sgil ei dad sydd yn wreiddiol o’r Rhyl, ac yn gymwys i chwarae i’r Alban drwy ei nain.
Ymunodd y canolwr â’r Scarlets ar ôl dychwelyd i chwarae ar ôl cael diagnosis o ganser y ceilliau y llynedd.
Croesodd Johnny Williams y llinell wrth chwarae dros Loegr yn erbyn y Barbariaid.
Callum Sheedy
Cafodd Callum Sheedy ei eni yng Nghaerdydd, ond roedd hefyd yn gymwys i chwarae dros Iwerddon drwy ei rieni, a Lloegr gan ei fod wedi byw yno am fwy na thair blynedd.
Ar ôl dod ymlaen fel eilydd i Loegr yn erbyn y Barbariaid y llynedd, chwaraeodd ran allweddol yn llwyddiant Bryste y tymor diwethaf, gan gyrraedd gemau ail gyfle’r Uwch Gynghrair a rownd derfynol Cwpan Her Ewrop.
“Mae’n awyddus iawn i chwarae dros ei wlad”
Fel yr eglura Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, roedd Callum Sheedy yn dymuno chwarae dros Gymru o’r cychwyn.
“Ar ôl treulio ryw funud ar y ffôn, roedd hi’n amlwg ei fod yn gymwys i chwarae dros Gymru, ac yn awyddus i chwarae dros Gymru,” meddai.
“Mae’n awyddus iawn i chwarae dros ei wlad, a’i wlad yw Cymru.
“Mae nawr yn gyfle da iawn i ni edrych ar adeiladu’r dyfnder rydyn ni’n meddwl y bydd ei angen arnom ni ar gyfer Cwpan y Byd yn 2023.”
Mentoriaid
Eglura Callum Sheedy fod Nicky Robinson, Adrian Jarvis a Gavin Henson wedi bod yn ddylanwad mawr arno wrth dyfu fyny.
“Mae’n teimlo mor bell yn ôl pan oeddwn i’n 18 neu 19 oed ac yn gweithio gyda Nicky Robinson, Adrian Jarvis, Gavin Henson – mae’r dynion hyn wedi bod yn fentoriaid gwych i mi,” meddai.
“Mae’n teimlo ychydig yn swreal. Dwi’n falch iawn ac yn methu aros i fwrw ati.
“Pan dwi’n gwylio fy ngemau yn ôl, dydw i byth yn fodlon.
“Fe allwn i wneud 100 o bethau da, ond bydd yr un peth drwg yna yn aros yn fy meddwl.”
Swigen Undeb Rygbi Cymru
Oherwydd y coronafeirws, bydd chwaraewyr Cymru yn cael eu rhoi mewn swigen yng ngwesty’r tîm er mwyn hyfforddi a pharatoi ar gyfer y gemau.
Ychwanegodd Wayne Pivac na fyddai’n meddwl ddwywaith cyn rhyddhau chwaraewyr pe baen nhw’n torri protocolau Covid llym fydd yn eu lle yn ystod ymgyrch yr hydref.
“Pe bai’r math yna o beth yn digwydd, fe fydd y chwaraewyr hynny yn cael eu rhyddhau o’r garfan,” meddai.
“Mae hi mor syml â hynny.
“Mae gormod yn y fantol a allai beryglu’r tîm neu hyd yn oed y gystadleuaeth.”