Mae Connor Roberts yn gobeithio y bydd Joe Rodon yn osgoi’r demtasiwn o fynd i Spurs ac yn aros gydag Abertawe.
Mae’r ddau wedi ymuno â charfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi i deithio i Wembley nos fory (nos Iau, Hydref 8) i herio Lloegr cyn eu gemau yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Mae’r Elyrch yn disgwyl i Spurs wneud cynnig am y chwaraewr 22 oed o ardal Llangyfelach y ddinas.
“Ers iddo fe ddod i mewn i garfan Abertawe a Chymru, mae sôn wedi bod amdano fe,” meddai Connor Roberts am ei ffrind a chyd-chwaraewr.
“Dw i ddim eisiau iddo fe fynd i unman.
“Ro’n i gyda fe ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ac yn ymlacio gyda fe.
“Ro’n i’n gofyn iddo fe beth oedd y sefyllfa.
“Ar hyn o bryd, mae e ond yn meddwl am y gêm nesaf rydyn ni’n ei chwarae yn erbyn Lloegr dros Gymru nos Iau, a dyna’r cyfan sydd yn ei ben e.”
Cyfle mawr
Gallai timau’r Bencampwriaeth golli chwaraewyr hyd at Hydref 16, y ffenest drosglwyddo nesaf, ac mae disgwyl i Spurs wneud cynnig am Joe Rodon cyn hynny.
Ond mae Connor Roberts yn dweud iddo ei gynghori i roi’r sefyllfa “yng nghefn ei feddwl” am y tro.
“Fyddwn i ddim yn dweud ei fod yn ei effeithio’n ormodol, mae e’n chwaraewr da,” meddai.
“Dw i’n ei nabod e er pan oedd e’n blentyn ac mae e’n foi gwych.
“Os yw e’n penderfynu yn yr wythnosau neu’r misoedd i ddod ei fod e am adael neu os yw e’n cael cyfle i fynd, digon teg.”