Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi awgrymu y gallai Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021 gael ei gohirio.

Mae’r bencampwriaeth i fod i gael ei chynnal rhwng Chwefror 6 a Mawrth 20.

Ond mae’n debyg bod y trefnwyr yn ystyried y posibilrwydd o ohirio’r gystadleuaeth os na fydd hi’n bosib chwarae o flaen torfeydd bryd hynny oherwydd Covid-19.

“Pwy a ŵyr pryd fydd y Chwe Gwlad nesaf yn cael eu chwarae?” meddai Wayne Pivac.

“Mae yna sôn y gallai gael ei wthio ymlaen ychydig, oherwydd yr hinsawdd bresennol.”

Daw ei sylwadau wedi iddo enwi ei garfan 38 dyn ar gyfer gemau’r hydref.

‘Pawb yn yr un cwch’

“Rwy’n credu mai cael y trafodaethau yma nawr yw’r peth iawn i’w wneud,” meddai.

“Rydyn ni mewn sefyllfa nawr lle nad oes modd cael torfeydd – neu ychydig iawn o dorfeydd – ac mae’r mwyafrif o undebau yn yr un cwch.

“Fe fyddan nhw’n ysu, nid yn unig i’r twrnamaint fynd yn ei flaen, ond hefyd am resymau ariannol i ganiatáu torfeydd.

“Rydyn ni wedi cael ein taro’n wael dros y misoedd diwethaf ac nid yw peidio cael torfeydd wedi helpu. Mae pawb yn teimlo’r pwysau ar hyn o bryd.

“Ond os bydd y dyddiadau’n aros yr un fath – os bydd hi’n orlawn neu beidio – byddwn yn gwneud ein rhan i baratoi’r gorau gallwn ni i gael y canlyniadau rydym ar eu hôl.

“Rydyn ni i gyd eisiau’r un peth, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gwneud penderfyniadau iawn yn seiliedig ar iechyd a lles y gymuned a’r sefyllfa ariannol.”

Gan fod y gwaith o ddatgomisiynu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality yn parhau, bydd Cymru yn wynebu’r Alban a Georgia tu ôl i ddrysau caëedig ym Mharc y Scarlets.

Dydy hi ddim yn glir eto ym mle fydd Cymru’n herio Lloegr nac y chwarae yng ngêm derfynol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.