Mae Ben Davies yn dweud bod “pawb yn gorfod chwarae eu rhan” yn nhîm Cymru ar drothwy’r gêm fawr yn erbyn Lloegr yn Wembley nos fory (nos Iau, Hydref 8) – wrth i’r rheolwr Ryan Giggs gadarnhau ei fod e’n un o’r rhai sy’n cael eu hystyried i fod yn gapten.
Ar ôl y gêm yn Wembley, bydd gan Gymru gemau pwysig yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Byddai arwain ei wlad yn benllanw cyfnod llwyddiannus i’r cefnwr chwith o Gastell-nedd a hyd yn oed pe na bai’n gapten, mae’n deall maint y cyfrifoldeb sydd ar ei ysgwyddau fe a’r chwaraewyr profiadol eraill yn y garfan.
“Rwy’n credu bod y bois sydd wedi bod yn y garfan am flynyddoedd yn cario lot o’r cyfrifoldeb, felly pan fyddan nhw ddim yma, mae’n siawns i chwaraewyr fel fi a Wayne a’r bois eraill sydd wedi cael lot o gapiau i ddangos pam bo ni yma a ni’n gorfod helpu’r bois sy’n ifancach na ni.
“Mae’n mynd i fod yn wythnos anodd ond mae dyfnder yn y garfan ac mae lot o’r bois yn chwarae’n aml i’w clybiau.
“Felly mae rhaid i ni fod yn barod i bobol ddod i mewn i’r tîm a bydd pawb yn gorfod chwarae eu rhan yn yr wythnos nesa’, a ni’n hyderus bo ni’n gallu dod trwyddo fe’n dda.”
Yn ôl Ben Davies, byddai buddugoliaeth dros Loegr yn hwb cyn y ddwy gêm gystadleuol sydd i ddilyn.
“Bydd e’n rhoi lot o hyder i ni wrth fynd ymlaen. Fi’n credu bo ni’n gallu dangos i bobol bo ni’n gallu cystadlu gyda’r timau gorau yn Ewrop ac mae e’n siawns i ni ddangos hwnna yfory.
“Bydd e’n gêm anodd dros ben ond ni’n edrych ymlaen ato fe.
“Mae’n gêm gyfeillgar, ni’n gwybod fod dwy gêm enfawr ar ôl e, ond rwy’n siwr fydd pawb yn y garfan yn mynd mewn yn barod am gêm anodd ac yn ceisio ennill y gêm.”
‘Dim penderfyniad eto’
Er iddo gadarnhau ei fod e’n un o’r rhai dan ystyriaeth i fod yn gapten, mae Ryan Giggs yn mynnu nad yw e wedi gwneud penderfyniad terfynol eto.
“Yn amlwg, mae gyda ni sawl opsiwn yn nhermau’r capten, ond mae Ben yn sicr yn un sydd â chyfle,” meddai.
Cafodd y cefnwr chwith ei ganmol am ei berfformiad yn erbyn y Ffindir yn Helsinki fis diwethaf, ac fe gafodd ei ganmol eto am ei ran ym muddugoliaeth Spurs o 6-1 dros Manchester United dros y penwythnos.
Roedd Giggs yno’n gwylio’r gêm ar ôl penderfynu mynd yno i wylio Davies, Daniel James ac o bosib Gareth Bale pe bai e wedi bod ar gael, ond roedd yn gyfle hefyd i wylio rhai o chwaraewyr Lloegr.
“Ro’n i ar fin gadael pan ddaeth Ben ymlaen, felly ro’n i’n meddwl y byddai’n well i fi aros i wylio fy chwaraewr,” meddai Giggs.
“Fe wnes i benderfynu mynd pan oedd gan Gareth siawns o chwarae, ac mae gyda ni Dan a Ben hefyd, a sawl un o chwaraewyr da Lloegr.”