Mae Ryan Giggs yn mynnu bod Aaron Ramsey wedi dilyn y protocol coronafeirws cywir ar ôl methu ag ymuno â charfan Cymru – er bod pob un arall o’i gyd-chwaraewyr rhyngwladol yn Juventus wedi gallu ymuno â’u gwledydd.

Fydd e ddim ar gael i herio Lloegr yn Wembley nos fory (nos Iau, Hydref 8) ar ôl i garfan gyfan y clwb Eidalaidd fod mewn cwarantîn yn dilyn profion positif ymhlith staff y clwb.

Mae Cristiano Ronaldo, Paulo Dybala, Juan Cuadrado, Rodrigo Bentancur, Merih Demiral a Danilo i gyd ar ddyletswydd ryngwladol erbyn hyn ar ôl gadael swigen y clwb.

“Wnaeth Aaron jyst ddilyn y protocol ddywedwyd wrtho fe am ei ddilyn,” meddai rheolwr Cymru, gan ychwanegu ei fod e’n disgwyl i’r chwaraewr fod ar gael ar gyfer y gemau yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

“Rydyn ni wedi cyd-fynd â hynny ac rydyn ni’n disgwyl iddo fod ar gael ddydd Sul a dydd Mercher.

“Rydyn ni wedi cefnogi’r protocol hwnnw, dw i ddim yn gwybod am sefyllfa unrhyw chwaraewyr na gwledydd eraill.

“Rydyn ni wrthi’n penderfynu pryd fydd e’n dod draw ac mae popeth yn ei le, a dw i’n edrych ymlaen at ei weld e’n ymuno.”

Profion negyddol

Yn ôl Ryan Giggs, mae’r holl chwaraewyr wedi profi’n negyddol ar gyfer y coronafeirws ers iddyn nhw ddod ynghyd.

Ond bydd Cymru heb Aaron Ramsey, Gareth Bale a Joe Allen oherwydd anafiadau, ac mae Daniel James yn sâl ar hyn o bryd ond yn gobeithio bod ar gael ar gyfer y gemau i gyd.

“Mae gyda fi griw gwych o chwaraewyr a dw i’n hapus gyda’r chwaraewyr sydd gyda fi,” meddai.

“Bydd prawf o ran cryfder mewn dyfnder ond dyna pam ein bod ni’n rhoi cyfleoedd i’r chwaraewyr ac mae hi i fyny iddyn nhw i aros yn y tîm.

“Rhaid i ni chwarae’r gêm hon ond fy mlaenoriaeth yw gwneud yn dda yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

“Mae gyda ni dair gêm mewn cyfnod byr felly mae rhywfaint o gydbwyso i’w wneud.

“Mae angen i ni gadw un llygad ar ddydd Sul.”