Mae Jonathan Davies wedi cyfaddef ei fod wedi amau na fyddai’n chwarae i Gymru eto ar ôl i anaf i’w ben-glin ei rwystro rhag chwarae rygbi am bron i flwyddyn.

Dyw’r canolwr 32 mlwydd oed heb wisgo’r crys coch ers i Gymru golli yn erbyn Seland Newydd yng Nghwpan y Byd ar Dachwedd 1 y llynedd.

Cafodd Davies, sydd wedi chwarae dros Gymru 81 o weithiau, driniaeth ar ei ben-glin chwith yn dilyn y twrnament yn Japan.

Ond ar ôl dychwelyd i’r Scarlets mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Gweilch fis diwethaf, mae o’n ddigon ffit i chwarae yn erbyn Ffrainc ym Mharis wythnos i ddydd Sadwrn (Hydref 24).

“Roeddwn yn gobeithio y byddai fy nghorff yn addasu a helpu ei hun i adfer,” meddai.

“Gyda lwc, fe wnaeth e weithio ac ers hynny mae pethau wedi bod yn mynd yn dda a dw i’n hapus gyda’r gwaith sy’n mynd ymlaen.

“Mae gwaith i’w wneud o hyd ond y peth mwyaf yw bod y ben-glin yn teimlo’n dda a dw i’n hapus gyda hynny.”

Chwe gem mewn chwe wythnos

Mae carfan Wayne Pivac yn wynebu chwe gêm mewn chwe wythnos, gan ddechrau yn Ffrainc, cyn herio’r Alban yn rownd olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yna, bydd Cymru’n wynebu pedair gêm yng Nghwpan y Cenhedloedd, gan gynnwys y gemau yn erbyn Iwerddon a Lloegr.

Dyma’r tro cyntaf i Jonathan Davies fod yn y garfan ers i Warren Gatland adael.

“Roedd y math o chwarae yn dda i’w wylio yn ystod y Chwe Gwlad felly dw i’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o’r garfan,” meddai.

“Mae dal rhai hen wynebau o hyd, felly mae’r balans yn dda.

“Dw i eisiau gweithio’n galed ac ennill fy lle’n ôl yn y garfan a’r tîm.”