Mae Graham Wagg yn gadael Clwb Criced Morgannwg ar ôl methu â dod i gytundeb i ymestyn ei gyfnod gyda’r sir.

Fe fu’r chwaraewr amryddawn gyda’r sir ers deng mlynedd, gan chwarae mewn 96 o gemau dosbarth cyntaf a sgorio 4,000 o rediadau gan gynnwys pedwar canred a chanred dwbl yn erbyn Surrey yn Guildford yn 2015.

Cipiodd e gyfanswm o 249 o wicedi dosbarth cyntaf, gan gipio pum wiced mewn batiad bedair gwaith, a daeth ei ffigurau gorau, chwech am 29, yn erbyn Surrey ar yr Oval yn 2014.

Mewn 64 o gemau undydd Rhestr A, cipiodd e 70 o wicedi, gyda’i ffigurau gorau – pedair am 45 – unwaith eto ar yr Oval mewn gêm ugain pelawd yn 2012. Sgoriodd e gyfanswm o 1,159 o rediadau undydd.

Sgoriodd e bron i 1,000 o rediadau mewn gemau undydd a chipiodd e 95 o wicedi ac mae’n ail ar restr prif fowlwyr y sir yn ôl wicedi mewn gemau ugain pelawd. Daeth ei ffigurau gorau – pump am 14 yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn 2013.

Enillodd ei gap yn 2013 ac fe gafodd e flwyddyn dysteb yn 2019.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Flwyddyn y sir yn 2015.

‘Ymgartrefu yng Nghymru’

Ymunodd â Morgannwg ar ôl chwarae i Swydd Warwick a Swydd Derby, ac mae’n dweud iddo “ymgartrefu yng Nghymru”.

“Mae’r cefnogwyr wir wedi bod yn rhan o’m hamser yma, ac mae’r gefnogaeth maen nhw wedi’i dangos i fi yn rhywbeth na fydda i fyth yn ei anghofio,” meddai.

“Mae gen i’r ysfa o hyd i chwarae criced ag yr oedd gen i flynyddoedd yn ôl a thra fy mod i’n drist o adael y clwb, fe fydd lle arbennig yn fy nghalon iddo a dw i’n gadael â dim byd ond teimladau positif tuag at Forgannwg.”

‘Angerdd a steil’

Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi talu teyrnged i Graham Wagg.

“Mae steil angerddol lwyr Graham wedi bod yn nodwedd o’i ddeng mlynedd gyda’r clwb, gan ei wneud e’n boblogaidd ymhlith y chwaraewyr a’r cefnogwyr fel ei gilydd,” meddai.

“Mae e wedi dylanwadu ar gemau i’r clwb gyda’r bat a’r bêl ac yn y maes, ac fe fydd colled ar ôl ei egni diflino yn yr ystafell newid a’r tu allan.

“Mae Graham yn gadael y clwb gyda’n dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol.”