Roedd canlyniadau cymysg i’r Cymry yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Snwcer Agored Lloegr ddoe (dydd Mawrth, Hydref 13).

Roedd buddugoliaethau i Matthew Stevens a Ryan Day, tra bod Dominic Dale a Michael White wedi colli.

Fe wnaeth Stevens guro Jamie O’Neill o bedair ffrâm i ddwy, tra bod Ryan Day wedi trechu’r chwaraewr amatur Mark Lloyd o bedair ffrâm i ddim.

Roedd Dale mewn sefyllfa gref yn y ffrâm dyngedfennol cyn i Kyren Wilson, a gyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd eleni, daro’n ôl i ennill y ffrâm olaf o un pwynt a’r ornest o bedair ffrâm i dair.

Yr un oedd y sgôr yn y gêm rhwng White a Zhao Jianbo.