Mae pryderon cynyddol ynghylch y gêm rygbi gyfeillgar rhwng Cymru a Ffrainc sydd i fod i gael ei chynnal ym Mharis nos Sadwrn nesaf (Hydref 24).

Bydd clybiau cynghrair y Top 14 yn cyfarfod â Ffederasiwn Rygbi Ffrainc heddiw (dydd Mercher, Hydref 14) ar ôl i’r clybiau wrthod rhyddhau chwaraewyr ar gyfer y gêm gyfeillgar.

Maen nhw wedi lansio achos cyfreithiol yn erbyn y Ffederasiwn am gyflwyno ffenestr gemau prawf brys sy’n ei gwneud yn ofynnol iddyn ryddhau chwaraewyr i’r tîm cenedlaethol rhwng Hydref 19 a Rhagfyr 5.

Dydy clybiau Ffrainc ddim chwaith wedi cytuno’n swyddogol i ryddhau chwaraewyr ar gyfer gweddill gemau’r Chwe Gwlad na gemau Cwpan y Cenhedloedd.

Yn ôl y papur newydd L’Équipe, bydd chwaraewyr ieuenctid yn cael eu dewis ar gyfer y gêm gyfeillgar os bydd rhaid.

Mae dros saith mis ers i Gymru chwarae gêm rygbi rhyngwladol diwethaf.

Rhagor o gyfyngiadau posib yn Ffrainc

Bydd Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron yn annerch y genedl heno (nos Fercher, Hydref 14) er mwyn rhoi diweddariad am sefyllfa’r coronafeirws yn Ffrainc.

Mae disgwyl iddo gyhoeddi cyfyngiadau llymach, ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd chwaraeon byw yn cael ei effeithio.

Wrth gyhoeddi ei garfan yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, fod ‘Plan B’ yn ei le pe na bai modd i’r gêm gyfeillgar fynd yn ei blaen.

Gemau Cymru

Ffrainc v Cymru Gêm Gyfeillgar Hydref 24, 20:00
Cymru v Yr Alban Chwe Gwlad 2020 Hydref 31, 14.15
Iwerddon v Cymru Rownd un, Cwpan Cenhedloedd yr Hydref Tachwedd 13, 19:00
Cymru v Georgia Rownd dau, Cwpan Cenhedloedd yr Hydref Tachwedd 21, 17:15
Cymru v Lloegr Rownd tri, Cwpan Cenhedloedd yr Hydref Tachwedd 28, 16:00
Cymru v i’w gadarnhau Rowndiau Terfynol, Cwpan Cenhedloedd yr Hydref Rhagfyr 5, 16:45