Mae Tyler Roberts, ymosodwr tîm pêl-droed yn dweud ei fod e’n gobeithio na fydd golygfeydd tebyg yn Sofia heno (nos Fercher, Hydref 14) i’r rhai adeg gêm Bwlgaria yn erbyn Lloegr y llynedd.
Cafodd nifer o chwaraewyr croenddu’r Saeson eu sarhau yn ystod eu buddugoliaeth o 6-0 yng ngêm ragbrofol Ewro 2020 fis Hydref 2019.
Bu’n rhaid atal y gêm ddwywaith wrth i’r dorf llafarganu caneuon hiliol, ac fe wnaeth y swyddogion fygwth dod â’r gêm i ben.
Bu’n rhaid i Fwlgaria chwarae un gêm heb dorf, a’r bygythiad o orfod chwarae gêm arall o dan yr un amgylchiadau pe bai’n digwydd eto o fewn dwy flynedd.
Er bod Bwlgaria’n wynebu argyfwng cenedlaethol yn sgil y coronafeirws hyd at Dachwedd 30, gall fod hyd at 8,500 o bobol yn y dorf yn Stadiwm Genedlaethol Vasil Levski ar gyfer y gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd heno.
Ond mae Tyler Roberts yn dweud nad yw’n gofidio am fynd yno.
“Gobeithio bod yna gyfyngiadau a bod pethau’n cael eu rhoi yn eu lle i helpu i atal y math yna o beth [hiliaeth],” meddai.
“Mae’n rywbeth, yn anffodus, sy’n dal i ddod i mewn i’r gêm fan hyn a fan draw, ond mae gen i’r bobol iawn o ‘nghwmpas i i ddelio â’r peth pe bai’r sefyllfa yna’n codi.
“Ym mhob math o bêl-droed – clwb neu wlad – mae yna gamau sydd angen eu cymryd o hyd a phethau mae angen iddyn nhw ddigwydd.
“Yn amlwg mae mudiad Black Lives Matter a stwff fel yna wedi helpu ond dw i’n dal i deimlo ei fod ymhell o le ddylai e fod.
“Dim ots faint yw’ch oed chi, rydych chi’n gobeithio na fydd e’n digwydd, dim ots pa liw ydych chi.
“Dw i eisiau bod yn rhan o drio helpu i wella’r peth ond ar yr un pryd, mae yna bobol uwchlaw fi hefyd mae angen iddyn nhw fod ar flaen y gâd.”
Rôl Tyler Roberts ar y cae
Mae Tyler Roberts wedi ennill wyth cap dros ei wlad mewn sawl safle ar y cae, ond mae’n dweud mai “rhif naw hyblyg” yw e, mewn gwirionedd.
Ond fe fydd e’n arwain y llinell flaen yn Sofia yn absenoldeb Kieffer Moore a Hal Robson-Kanu, sydd wedi’u hanafu.
“Drwy gydol fy mywyd, dw i wedi bod yn ymosodwr ac yn rhif nawr ond dw i wedi addasu,” meddai.
“Does dim ots gyda fi chwarae fel rhif 10, fel chwaraewr canol cae ymosodol neu allan yn llydan.
“Ond yn y pen draw, dw i’n gweld fy hun yn rhif naw hyblyg.
“Mae Kieffer yn gwneud yn wych ac mae e’n dda yn gwneud yr hyn mae e’n ei wneud.
“Ond fel chwaraewr, mae yna gystadleuaeth bob amser.
“Byddwn i wrth fy modd yn cael bod yn rhif naw Cymru a chael y cyfle i brofi y gallaf fod y chwaraewr hwnnw.”
Mae e’n canmol ei glwb Leeds a’r rheolwr Marcelo Bielsa am ddatblygu ei ddoniau fel chwaraewr ac am ei helpu i ddatblygu i fod yn chwaraewr rhyngwladol.
“Dw i wedi aeddfedu ers iddo fe fod yn y clwb, ac yn gwybod sut mae angen chwarae’r gêm,” meddai.
“Mae hynny wedi cael ei roi ynof fi fel chwaraewr ac mae wedi fy newid i fel person, a byddai pobol gyda Chymru’n sylweddoli hynny.”